Mae ein tîm Llwyddiant Myfyrwyr: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y brifysgol a sicrhau eich bod yn parhau i symud ymlaen wrth i chi baratoi at eich gyrfa ar ôl graddio.
Mae ein Cefnogaeth yn canolbwyntio ar bedair thema er mwyn eich helpu i Archwilio, Profi, Mynegi a Chysylltu, felly pa bynnag gam rydych chi arno wrth feddwl am Yrfa, rydym gyda chi bob cam o'r ffordd.
Mae'r Stiwdio Gyrfaoedd wedi ei lleoli ar lawr cyntaf Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau, ac mae’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm. Nid oes rhaid cael apwyntiad, gallwch alw heibio ar amser sy'n gyfleus i chi.
Ewch ar daith o amgylch y Stiwdio Gyrfaoedd
Defnyddiwch y daith ryngweithiol o'r Stiwdio Gyrfaoedd i gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion a chwrdd â rhai o'n Cymhellwyr Gyrfa.
Cwrdd â'ch Cymhellwyr Gyrfa
Myfyrwyr, yn union fel chi, yw ein Cymhellwyr Gyrfa, ac maent wedi cael hyfforddiant llawn. Maent yn darparu cefnogaeth ar bob agwedd, o ystyried dewisiadau, i gynllunio eich gyrfa a gwneud cais am swydd.
Pa bynnag gam rydych chi arno wrth feddwl am yrfa; maent yma i’ch helpu.
Galwch heibio i weld y tîm i gael gwybod mwy!
Abigail
Cwrs: PhD Seicoleg
"Fy nghyngor mwyaf defnyddiol, er nad yw'n wreiddiol, yw gwneud cais am BOB DIM! Nid oes ots a ydych yn teimlo mai chi yw'r unigolyn gorau i’r swydd, neu a oes gennych y set sgiliau cywir ar hyn o bryd. Mae gwneud cais am gymaint ag y gallwch yn cynyddu eich sgiliau ymgeisio ac yn helpu cynyddu eich hyder i wynebu pobl anghyfarwydd. Ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gwneud doethuriaeth yn syth ar ôl BSc ac MSC, ond gwnes gais a chefais le! Ni allwch fyth wybod pa swydd y gallech ei chael os na fyddwch yn gwneud cais amdani!"
George
Cwrs: MSci Eigioneg Ffisegol
"Manteisiwch ar bob cyfle i wneud cais am interniaethau haf! Interniaethau yw un o'r ffyrdd gorau o ennill profiad perthnasol mewn diwydiant, cael blas ar wahanol lwybrau gyrfa, a dangos eich menter a'ch brwdfrydedd i gyflogwyr posib."
Kallolini
Cwrs: Cwnsela MSc
"Peidiwch â gadael i ddiffyg hyder eich rhwystro rhag gwneud rhywbeth. Ymchwiliwch yn drylwyr, siaradwch â phobl yn yr un maes/swydd, paratowch yn drylwyr a meddyliwch am yr hyn sy'n gwneud i chi sefyll allan, tynnwch sylw at eich cryfderau a pheidiwch ag anghofio teilwra eich CV i gyd-fynd â’r swydd."
Luce
Cwrs: MZool Sŵoleg gydag Ornitholeg
"Fy awgrym mwyaf defnyddiol yw camu y tu allan i'r hyn sy’n gyfarwydd i chi. Boed yn gamau bach neu fawr, rydych yn siŵr o ddysgu pethau newydd, nid yn unig am eich gwaith, ond amdanoch chi eich hun hefyd."
Nyasha
Cwrs: Bioleg Môr ac Eigioneg
"Rwy'n meddwl mai fy awgrym gorau yw peidio â chyfyngu eich hun i’r hyn rydych yn meddwl sy'n bosib, ond i feithrin perthynas â phobl a rhwydwaith o'ch cwmpas. Po fwyaf y byddwch yn gwthio eich gyrfa, y mwyaf y byddwch yn ei gael ohoni. Rwy’n hoffi’r agwedd ‘chewch chi ddim byd heb ofyn’."
Ollie
Cwrs:
"Peidiwch ag ofni cymryd cam rydych chi'n meddwl sydd i gyfeiriad anghywir. Mae pob profiad yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi, ac weithiau'n rhoi dealltwriaeth newydd o'ch maes, eich bywyd neu'ch nodau – pethau a all wir eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa!"
Phillippa
Cwrs: Cwnsela MSc
"Nodwch beth sy'n bwysig i chi a beth yw eich gwerthoedd. Dewch o hyd i gwmni a swydd sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd hynny."
Saskia
Cwrs: Gwyddorau Chwaraeon Antur, BSc
"Cofiwch nad oes rhaid i'ch taith tuag at yrfa fod yn llinell syth i fod yn llwyddiannus. Rhowch ganiatâd i chi eich hun ystyried gwahanol ddiddordebau a chanolbwyntiwch ar feithrin sgiliau trosglwyddadwy - fel cyfathrebu clir a hyblygrwydd - a fydd yn ddefnyddiol iawn i chi ble bynnag byddwch yn gweithio yn y pen draw."
Sebastian
Cwrs: PhD Economeg
"Peidiwch â disgwyl tan y byddwch yn teimlo'n "barod" cyn gwneud cais am rywbeth newydd. Daw'r rhan fwyaf o ddatblygiad gyrfa o ymgymryd â phethau anghyfarwydd a dysgu wrth wneud."