Mae Hyfforddiant Personol Chwaraeon Bangor wedi’i gynllunio i’ch cefnogi ac ysgogi yn y gampfa ac i'ch helpu i deimlo’n hyderus. P’un a ydych yn gwbl newydd i’r gampfa neu’n edrych i fynd â’ch hyfforddiant i’r lefel nesaf, mae ein hyfforddwyr cymwys yn gweithio gyda chi ar sail un‑i‑un i ddeall eich nodau ac i greu cynllun sy’n ffitio o amgylch eich ffordd o fyw.
Gyda chyfarwyddyd arbenigol, cyfeillgar a phersonol, rydym yma i’ch helpu i gael y gorau o bob sesiwn a sicrhau eich bod yn mwynhau’ch taith tuag at well iechyd a lles.
Sut fyddwch yn elwa o Hyfforddiant Personol?
- Mae eich Hyfforddwr Chwaraeon Bangor yn cynllunio sesiynau o amgylch eich nodau, eich lefel ffitrwydd a’ch amserlen, gan eich helpu i gadw ar y trywydd iawn o’r diwrnod cyntaf.
- Dysgwch dechneg gywir a meithrin hyder wrth ddefnyddio offer y gampfa, gan leihau’r risg o anaf.
- Cymhelliant pan fydd ei angen arnoch fwyaf – cewch strwythur, anogaeth a’r atebolrwydd y mae llawer ei angen i aros yn gyson.
- Mae sesiynau wedi’u targedu yn sicrhau bod eich amser yn y gampfa yn effeithiol, yn effeithlon ac yn canolbwyntio’n llwyr ar gyrraedd eich nodau.
- Mae Hyfforddwyr Chwaraeon Bangor yn eich helpu i osod cerrig milltir realistig ac yn monitro’ch cynnydd fel y gallwch weld pa mor bell rydych wedi dod.
- Amgylchedd cefnogol a chroesawgar – caiff ein sesiynau eu haddasu i’ch lefel cysur a’ch profiad.
- Mwynhewch sesiynau ysgogol gyda gweithgareddau a chyfarwyddiadau newydd sy’n eich cadw’n ysbrydoledig ac wedi’ch herio.
- O reoli pwysau ac adeiladu cryfder i berfformiad chwaraeon ac adsefydlu, mae Hyfforddwyr Chwaraeon Bangor yn cynnig arbenigedd arbenigol.
Prisiau Hyfforddiant Personol
Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddiant personol, gellir archebu yn unigol neu fel bloc o sesiynau.
| Aelodaeth | Prisiau | ||
|---|---|---|---|
| 1 Sesiwn | 3 Sesiwn | 5 Sesiwn | |
| Myfyriwr | £12.00 | £33.00 | £50.00 |
| Staff | £18.00 | £48.00 | £70.00 |
| Cyhoedd | £22.00 | £60.00 | £90.00 |
Gwybodaeth Bwysig, Telerau ac Amodau
- Rhaid talu'n llawn am bob sesiwn ar ddechrau'r sesiwn gyntaf – pecynnau 1 sesiwn, 3 sesiwn neu 5 sesiwn yw'r rhain.
- Rhaid defnyddio sesiynau o fewn 6 mis i'r dyddiad prynu (h.y., y sesiwn gyntaf) neu byddant yn dod yn ddi-rym.
- Rhaid i bob sesiwn a brynir mewn pecynnau gael eu cwblhau gan yr un person, ni ellir eu trosglwyddo i rywun arall.
- Rhaid trefnu amseroedd sesiynau'n uniongyrchol rhwng yr Hyfforddwr Ffitrwydd a'r cwsmer – nid trwy'r dderbynfa
- Nid oes angen bod yn aelod i archebu sesiynau Hyfforddiant Personol yng Nghanolfan Brailsford.
- Rhaid i unigolion fod yn 16 oed neu'n hÅ·n i archebu a chymryd rhan mewn sesiynau Hyfforddiant Personol yng Nghanolfan Brailsford.
- Cansladau: Rhybudd canslo 24 awr: Mae'n ofynnol i gwsmeriaid roi o leiaf 24 awr o rybudd os oes angen iddynt ganslo neu aildrefnu sesiwn.
- Canslo’n hwyr a dim troi fyny: Bydd canslo’n hwyr (llai na 24 awr) neu beidio â mynychu sesiynau yn arwain at dâl sesiwn llawn neu golli sesiynau os yw pecyn wedi’i brynu.
- Eithriadau i Ganslo Hwyr a dim troi fyny: Gall achosion eithriadol ganiatáu hyblygrwydd i'r polisi canslo. Gall enghreifftiau gynnwys salwch sydyn, argyfyngau teuluol ac ati. Rhowch wybod am yr amgylchiadau hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion. Mae gorfodi'r polisi yn ôl disgresiwn yr hyfforddwr a/neu ei reolwr llinell.
- Canslo Dro ar ôl Tro: Bydd canslo’n hwyr a peidio mynychu’n rheolaidd yn arwain at adolygiad o’r amserlen hyfforddi a lle bo angen, terfynu gwasanaethau Hyfforddiant Personol.
- Sut i Ganslo: I ganslo sesiwn hyfforddi personol, rhaid i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r hyfforddwr. Dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig drwy e-bost. Os na allwch gysylltu â'r hyfforddwr, cysylltwch â'r dderbynfa ar 01248 382571. Mae dal angen canslo'n ysgrifenedig gyda’r hyfforddwr.
Ad-daliadau a Chanslo
- Pecynnau Rhagdaledig (blociau o 3 neu 5 sesiwn): Ni roddir ad-daliadau am becynnau sydd wedi mynd heibio'r dyddiad dilysu 6 mis. Gall amgylchiadau eithriadol fod yn berthnasol.
- Ni roddir ad-daliad os yw'r canslo o fewn 24 awr i amser y sesiwn a bydd yn arwain at golli'r sesiwn honno (pan fydd mewn cynigion pecyn). Bydd angen i gwsmeriaid sy'n talu am 1 sesiwn ar y tro dalu cost y sesiwn a gollwyd cyn y gallant ailddechrau eu Hyfforddiant Personol.
- Terfynu Hyfforddiant Personol: Os nad yw'r cwsmer am barhau â'r sesiynau Hyfforddi Personol a brynwyd am unrhyw reswm, dim ond y sesiynau sy'n weddill o'r pecyn fydd yn cael eu had-dalu. Rhaid i hyn fod y tu allan i'r polisi canslo 24 awr.
Gwybodaeth a Gasglwyd
Efallai y bydd rhywfaint o wybodaeth sensitif a phersonol yn cael ei gasglu er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel enw, dyddiad geni, manylion cyswllt. Gwybodaeth iechyd fel hanes meddygol, meddyginiaethau anafiadau cyfredol, a gwybodaeth ffitrwydd fel pwysau, canran braster y corff, manylion ymarfer corff.
Sut mae’n cael ei ddefnyddio
Defnyddir y wybodaeth a gasglwn i greu eich cynlluniau ffitrwydd personol, i olrhain eich cynnydd a gwneud yr addasiadau angenrheidiol i'ch rhaglen hyfforddi i'w chadw wedi'i theilwra i'ch anghenion. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i sicrhau Iechyd a Diogelwch i'n holl gwsmeriaid yn ystod eu sesiynau ac i sicrhau ein bod wedi cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol.
Storio Gwybodaeth
Cedwir gwybodaeth bersonol a sensitif cyhyd ag y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol. Nid ydym yn cadw'r data mwyach unwaith y bydd y cwsmer yn peidio â gweithio gyda ni mwyach. Mae unrhyw ddogfennaeth bapur yn cael ei storio mewn cwpwrdd dan glo. Cysylltwch â Chanolfan Brailsford i ddileu neu ddinistrio eich gwybodaeth.
Rhannu Gwybodaeth
Nid ydym yn gwerthu, rhannu na rhentu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata. Gellir rhannu gwybodaeth yn yr amgylchiadau canlynol:
- Lle mae'r cwsmer wedi rhoi caniatâd penodol i'r wybodaeth gael ei rhannu.
- Os yw'n ofynnol gan y gyfraith, rheoliad neu broses gyfreithiol (e.e. gorchymyn llys).
- Gyda darparwyr gwasanaeth trydydd parti dibynadwy sy'n cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau, o dan gytundebau cyfrinachedd llym (e.e. proseswyr taliadau neu ddarparwyr meddalwedd).