Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Amgylcheddol Genedlaethol
Rhys Dart, Cyfarwyddwr yr Undeb, Kristen Harding, cylchgrawn The Ecologist Magazine a Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a ChymunedGwobrwywyd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) ym Manceinion.
Maeār gwobrauān cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad ac eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed, sef 105 o undebau, yn cystadlu. Maeār gwobrau yn rhan o fenter Effaith Gwyrdd UCM syān cynnig achrediad amgylcheddol i undebau myfyrwyr, ac yn helpu undebau i ddwyn sylw at eu harferion amgylcheddol rhagorol.
Enillodd Undeb Myfyrwyr Bangor eu gwobr am amrywiaeth eang o weithgareddau amgylcheddol ac arferion gorau, o brosiectau i helpu lleihauār gostyngiad yn y niferoedd o wenyn a arweiniodd at blannu miloedd o flodau gwyllt o gwmpas Bangor, at fenter ailgylchu flaengar yn casglu hen ābrasā iāw hailddefnyddio mewn rhannau eraill oār byd. Hefyd fe gefnogodd yr Undeb Bythefnos Masnach Deg aār Wythnos Werdd, yn ogystal Ć¢ gweithioān agos gyda Chyngor Gwynedd i annog myfyrwyr i ailgylchu a chadw Bangor yn daclus!
Dymaār ail flwyddyn yn olynol i Fangor dderbyn cydnabyddiaeth am eu perfformiad eithriadol yn amgylcheddol, gan dderbyn āGwobr Gwelliant Mwyafā y Co-operative a Gwobr āHer Cyfathrebuā The Ecologist yng Ngwobrau Effaith Gwyrdd 2011.
Rhys Dart, Cyfarwyddwr yr Undeb a Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a ChymunedDywedodd Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau aār Gymuned, āMaeān anhygoel cael ein henwiān Undeb y Flwyddyn; rydym wedi dod yn bell iawn yn gyflym iawn, ddwy flynedd yn Ć“l dim ond ar lefel Efydd oeddem ni, a nawr rydym y gorau yn y DUā.
Dywedodd yr Athro John G. Hughes, yr Is-Ganghellor āMae hwn yn gyrhaeddiad aruthrol, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm ag ennill y wobr yma.
Rydym yn falch iawn ym Mhrifysgol Bangor oār gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas Ć¢ār amgylchedd, ac mae cymuned y Brifysgol yn gweithioān galed i ddiogelu a gwellaār cynefin rhyfeddol rydym yn byw, astudio a gweithio ynddo. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn gysylltiedig.ā
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012