Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd iār Coleg Cymraeg o Brifysgol Bangor
²Ń²¹±šār wedi penodi pump llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Bangor i rannu āSŵn y Stiwdantsā ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae 26 o lysgenhadon i gyd eleni sydd wedi eu lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru.
Bydd Mari Lois Evans, syān astudio Addysg Gynradd, Lowri Wyn Davies syān astudio Addysg Cynradd gyda SAC, Elin Llywelyn Wiliams a Sioned Mair Williams, y ddwy ar gwrs Bydwreigiaeth a Lleu Arthur Pryce syān astuio Newyddiaduraeth aār Cyfryngau yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwyār flwyddyn.
Eu prif rĆ“l fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwynoār manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioliār Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd ar-lein, fydd yn cynnwys rhoi cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau āSŵn y Stiwdantsā.
Meddai Rheolwr Marchnataār Coleg Cymraeg, Elin Williams:
āMae cyfraniad ein llysgenhadon i ledaenuār neges am fywyd myfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion a manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod bwysig. Yn sgil y pandemig COVID-19, mae hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol a thrwy bodlediadau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda chriw brwdfrydig o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru unwaith eto eleni.ā
Meddai Dr Llion Jones o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor:
ā²Ń²¹±šār pump llysgennad newydd yn rhan o gymuned Gymraeg gref a bywiog ym Mhrifysgol Bangor syān rhoi sail gadarn ar gyfer astudio drwyār Gymraeg. Fel prifysgol, rydym yn ymfalchĆÆo yn y ffaith fod gennym dros 1,350 o fyfyrwyr bellach syān dewis astudio drwyār Gymraeg.ā
Gellir gwrando ar bodlediadau āSŵn y Stiwdantsā ar Spotify, ble mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau, boed am fywyd Prifysgol yng nghanol pandemig, cyrsiau neu sgyrsiau ysgafn a rhoiār byd yn ei le! Yn ogystal mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniauār unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter āDy Ddyfodol Diā a Facebook a YouTube āColeg Cymraegā.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2021