Pam fod Saesneg yn iaith addysg yng Nghymru yn draddodiadol?
Nid canlyniad gorthrwm oedd hyn. Cafodd addysg gyfrwng Saesneg ei gweld fel ffordd o helpuār Cymry i ddysgu Saesneg.
Dyna yw barn Simon Brooks. Bydd oān dadlau yn ei ddarlith āGolwg Newydd ar y Llyfrau Gleision, ddoe a heddiwā fod y syniad hwn yn ddylanwadol hyd heddiw, ond yn eironig mewn broydd Cymraeg yn unig.
Maeār Ddarlith Goffa Syr Huw Owen yn digwydd am 6.30 yh ym Mhrif Ddarlithfaār Celfyddydau, Prifysgol Bangor nos Iau 20 Tachwedd. Mae ar agor i bawb.
Dywedodd Simon Brooks:
āRwyf eisiau ateb cwestiwn anodd. Pam fod addysg uwchradd Gymraeg ar gael ymhob man bron mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith yng Nghymru ond addysg ddwyieithog yn unig sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymraeg?
āY āWest Merioneth questionā yw fāenw ar y broblem hon, ar Ć“l y āWelsh Lothian questionā enwog mae rhai yn honni nad oes modd ei ateb.
āMaeār rhesymau yn ddiwylliannol yn hytrach nag addysgol, ac mae eu gwreiddiau yn Oes Fictoria.
āMae mwy o sensitifrwydd mewn ardaloedd Cymraeg nag ardaloedd Saesneg o ran gallu plant mewn Saesneg.
āFodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth syān bodoli y byddai addysg gyflawn Gymraeg yn rhwystro dysgu Saesneg yn effeithiol.
āDylem archwilio ffyrdd amgen o wella perfformiad mewn Saesneg, megis cefnogaeth ychwanegol i Saesneg fel pwnc.ā
Arbenigwr yn hanes a llĆŖn y cyfnod modern yw Dr Simon Brooks. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y bedwaredd ganrif ar bymtheg, addysg trwy gyfrwng ieithoedd llai, syniadaeth wleidyddol a chynllunio ieithyddol, themĆ¢u y bydd yn troi atynt yn Narlith Goffa Syr Hugh Owen eleni. Yn awdur nifer o gyfrolau, bydd llyfr newydd oāi eiddo, Pam na fu Cymru, yn ymddangos y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn cwblhau astudiaeth o leiafrifoedd ethnig yn y diwylliant Cymraeg ei iaith, Hanes Cymry.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014