Dathliadau Diwali
Bu myfyrwyr y Brifysgol sy'n hanu o India yn dathlu gŵyl Hindŵaidd Diwali mewn steil nos Wener ddiwethaf (5ed o Dachwedd) wrth i Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol drefnu parti yn Neuadd Rathbone.
Rhai o fyfyrwyr Bangor sy'n hanu o India yn mwynhau'r digwyddiad i nodi Gŵyl Diwali.
Mae Gŵyl Diwali (neuār Å“yl o Oleuadau) yn un oār rhai pwysicaf yn India a, gan eu bod yn bell o deulu a ffrindiau, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr y wlad honno syān astudio ym Mangor, ddathlu gyda ffrindiau a myfyrwyr rhyngwladol eraill. Mwynhawyd gwledd o gerddoriaeth, canu a dawnsio a thrawsnewidiwyd Neuadd Rathbone gyda goleuadau a blodau - gan roi naws āgartrefolā iār myfyrwyr.
āRoedd Manuela Vittori, Swyddog Lles Myfyrwyr Rhyngwladol a drefnodd y noson, yn hynod o hapus bod oddeutu 200 o fyfyrwyr wedi mynychuār digwyddiad a bod pawb wedi mwynhau.
āRoedd hiān braf gweld cymaint o fyfyrwyr aāu teuluoedd yn mwynhauār noson ac yn rhannu eu diwylliant gyda myfyrwyr o wahanol wledydd. Hoffwn drefnu mwy o ddigwyddiadau tebyg yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu ac i wneud iddynt deimlo yn gartrefol gyda ni yma ym Mangorā.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2010