Darlithydd āysbrydoledigā ym Mangor i garioār Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i garioār Fflam Olympaidd ar Ć“l cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr.
Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, iār categori āYsbrydoli Eraill trwy Addysgā a bydd yn carioār fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy ā 15 milltir o Fangor ā ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.Bydd darlithydd y Gyfraith Sarah Nason yn cario'r Fflam Olympaidd trwy Conwy ar 29 Mai
Ymunodd Sarah ag Ysgol y Gyfraith, Bangor yn 2006, ar Ć“l gwasanaethu am gyfnod byr gydaār Llynges Frenhinol ac yna ennill gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Maeān fabolgampwraig frwdfrydig ac wedi ennill ei bri fel rhedwr marathon cyn troi at triathlon. Hi oedd yr ifancaf i gystadlu yn Uwch Driathlon Cymru 2008 ac yr adeg honno, dim ond yr ail ferch i gwblhau'r cwrs. Hefyd llwyddodd i gwblhau Triathlon Ironman y DU a hi oedd y person cyntaf erioed o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ultraman Canada, syān cael ei ystyried fel y triathlon anoddaf yn y byd.
Er gwaethaf ei gallu athletaidd, enwebwyd Sarah fel cydnabyddiaeth am ei gwaith dysgu, gyda myfyrwyr yn rhoi ei henw gerbron am fod yn āacademydd ac athro ysbrydoledigā ac yn ābatrwm ymddwyn eithriadolā.
āMae cael eich enwebu i gymryd rhan yn trosglwyddoār Fflam Olympaidd yn anrhydedd mawr ynddo'i hun, ond mae'n golygu gymaint mwy yn dod oddi wrth y myfyrwyr", meddai Sarah. āRwyān falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu am fy nysgu yn hytrach nag am chwaraeon. Maeān rhoi llawer iawn o foddhad bod y myfyrwyr yn elwa cymaint o'u profiad yn Ysgol y Gyfraith Bangor ag yr ydym ni fel staff. Rwyf wedi gweld yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth yn ystod fy nghyfnod yma ac edrychaf ymlaen at weld beth syān dod nesaf. Yn y cyfamser, byddaf yn falch iawn o chwifioār faner - neuār fflam - i Brifysgol Bangor!ā
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012