Darlithydd y Gyfraith yn ennill gwobr ymchwil bwysig
Evelyne Schmid o Ysgol y Gyfraith Bangor a chyd-ennillwyr David Roth-Isigkeit (chwith) a Bernhard Blumenau (dde) yn derbyn eu gwobrwyon Dyfarnwyd gwobr ymchwil bwysig yr āAcademic Platform Switzerland UNā i Evelyne Schmid, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Bangor.
Rhwydwaith wedi ei lleoli yn Genefa yw āAcademic Platform Switzerland UNā syān ceisio meithrin ymchwil arloesol a rhagorol ar faterion yn ymwneud Ć¢ chysylltiadau rhyngwladol aār Cenhedloedd Unedig. Maeār corff yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i wobrwyo traethodau rhagorol gan ymchwilwyr ifanc ar bwnc syān codi ymwybyddiaeth.
Mae Ms Schmid wrthiān cwblhau doethuriaeth mewn cyfraith gyhoeddus ryngwladol yn y Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Datblygu i Raddedigion yn Genefa, ac roedd yn un o dri enillydd eleni. Enillodd wobr yn y categori i fyfyrwyr PhD am ei thraethawd "Economic, Social and Cultural Rights after Conflict: The Analysis of the United Nations Committee on ESCR and Potential Synergies with Transitional Justice". Yr enillydd arall yn y categori PhD oedd Bernhard Blumenau, tra enillwyd y categori Meistr gan David Roth-Isigkeit.
āMae derbyn y wobr hon yn anrhydedd, yn enwedig mewn cynhadledd mor bwysig," meddai Ms Schmid, a ymunodd ag Ysgol y Gyfraith Bangor ym mis Tachwedd 2011. āMae ennill y wobr hon yn rhoi hwb i mi barhau gyda fy ymchwil ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a system y Cenhedloedd Unedig. Ond yn bwysicach na hynny, mae'r wobr wedi fy rhoi mewn cysylltiad gyda Swyddfaār Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol yn y Cenhedloedd Unedig, lle maeār traethawd wedi ennyn llawer o ddiddordeb. Rwyān awyddus i barhau gydaār drafodaeth er mwyn iār awgrymiadau aār argymhellion sydd yn y traethawd gael eu hystyried yn nhrefn adrodd gwladwriaethau i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.ā
Cyflwynwyd y wobr i Ms Schmid yng nghynhadledd flynyddol āAcademic Platform Switzerland UNā a gynhaliwyd yn Genefa ar 1 Rhagfyr 2011. Thema cynhadledd eleni oedd comisiynau ymholi a theithiau casglu ffeithiau'r Cenhedloedd Unedig. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Michael Bothe, llywydd y Comisiwn Casglu Ffeithiau Dyngarol Rhyngwladol; Reed Brody, aelod o Gomisiwn Ymholiār Cenhedloedd Unedig ar Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo 1997; Andrew Clapham, Athro yn y Gyfraith Ryngwladol; Philippe Kirsch, cyn-lywydd y Llys Troseddol Rhyngwladol a Phennaeth y Comisiwn Ymholi a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol i ymchwilio i droseddau yn erbyn hawliau dynol yn Libya 2011; a Vitit Muntarbhorn, Pennaeth y Comisiwn Ymholi ar CĆ“te dāIvoire a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011