Cynhadledd i drafod cyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn iaith leiafrifol
Cynhelir cynhadledd ddwyieithog arbennig ym Mangor i drafod datblygiadau diweddar ym maes cyfraith hawlfraint ac effaith y gyfraith ar gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol.
Trefnir y gynhadledd āCasglu a Gwarchod: Hawlfraint yn yr 21ain Ganrif a Cherddoriaeth Mewn Ieithoedd Lleiafrifolā gan Prifysgol Bangor ac feāi cynhelir yn Neuadd Reichel ar Ddydd Iau 13eg Chwefror, 9.30am-4.00pm.
Maeār gynhadledd, a noddir gan y , yn cael ei chynnal yn sgil dyfarniad diweddar y Tribiwnlys Hawlfraint yn yr achos rhwng y BBC ac Eos, asiantaeth gasglu syān cynrychioli hawliau a diddordebau cerddorion Cymreig.
Y prif siaradwyr gwadd ywār Athro Ian Hargreaves, Athro'r Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Gwion Lewis, bargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain a chwnsler Eos yn y tribiwnlys diweddar.
Bydd yr Athro Hargreaves yn trafod āGwleidyddiaeth Hawlfraintā ac yn egluro egwyddorion ei adolygiad o gyfraith Eiddo Deallusol i Lywodraeth y DU, tra bydd Gwion Lewis yn edrych yn Ć“l ar ddyfarniad y Tribiwnlys aāi arwyddocĆ¢d iār drafodaeth ehangach ar gyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol.
Cyfranwyr eraill iār gynhadledd fydd John Hywel Morris (PRS for Music), Kalev Rattus (EAU Estonia), Mark Hyland (darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor syān arbenigo ar Gyfraith Eiddo Deallusol a Hawlfraint), a Deian ap Rhisiart a Steffan Thomas ( myfyrwyr doethuriaeth syān ymchwilio i hawlfraint cerddoriaeth yng Nghymru).
āGobeithiwn y bydd y gynhadledd hynod amserol yma yn ysgogi mwy o ddiddordeb a thrafodaeth ym maes hawlfraint yn gyffredinol yng Nghymru, ac yn arbennig felly o ran hawlfraint yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau lleiafrifolā, meddai Carys Aaron, trefnydd y gynhadledd a Darlithydd yn y Gyfraith ym Mangor. āEin gobaith yw y bydd yn arwain at ymchwil pellach a mwy o arbenigedd cynhenid yn y maes yma yng Nghymru.
Nid oes cost am fynychu āCasglu a Gwarchod: Hawlfraint yn y 21ain ganrif a cherddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifolā a darperir cinio. Mae cofrestru yn hanfodol; gellwch gofrestru drwy e-bostio cynhadleddhawlfraint@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014