āCyfle am sgwrsā i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia
Rhai o'r lleisiau a fydd yno i ateb galwadau.Mae āCyfle am Sgwrsā yn rhoi cynnig i siarad ar y ffĆ“n neu gwrdd Ć¢ rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o āā ym mis Medi (23/09/2019).
Daeth y syniad o brofiad personol Teresa Davies ar Ól iddi dderbyn diagnosis, pan fyddai wedi hoffi siarad hefo rhywun a allai werthfawrogi'r hyn yr oedd hi yn mynd drwyddo. Mae'r fenter wirfoddol hon yn gyfle i siarad â rhywun sydd yn deall sut y gall unigolyn deimlo ac y gallent gyfeirio at eraill a allai fod o gymorth, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain.
Dywedodd Teresa, o Ewloe:
āTrwy siarad Ć¢ phobl eraill syān byw gyda dementia, gallwch ddarganfod beth syān gweithio iddyn nhw, a rhannu eich profiadau. Ti dal yn chdi.ā
Maeār prosiect yn deillio o sydd yn cael ei hwyluso gan Brifysgol Bangor aār āDementia Engagement and Empowerment Projectā(DEEP) a bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar ddementia ym Mhrifysgol Bangor ar 23 Medi am 10:30yb. Bydd y bore yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor ac wrth gwrs, y gwirfoddolwyr eu hunain, a fydd yn rhannu cyngor ar fyw efo diagnosis o ddementia.
Dywedodd Dr Jen Roberts o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol
āYchydig iawn o ymchwil hyd hyn sydd wedi archwilio cefnogaeth gyfoed i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd y prosiect hwn yn darparu mewnwelediadau a dealltwriaeth bwysig ar gyfer datblygu cefnogaeth amserol a phriodol i bobl sy'n byw gyda dementia, gan bobl sydd yn byw gyda dementia.ā
Dyfarnwyd tystysgrif statws Gweithio Tuag at fod yn Ddementia Cyfeillgar i Brifysgol Bangor gan Jim Ibell, Llysgennad Cymdeithas Alzheimer ym mis Mai 2019, ac mae aelodau āCyfle am Sgwrsā ar grŵp llywio'r Brifysgol. Bydd y digwyddiad yma hefyd yn gyfle i ddysgu am y wahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ledled gogledd Cymru i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.
Gwahoddir pobl sydd â diddordeb darganfod mwy am yr ymchwil ddiweddaraf a chasglu awgrymiadau ar fyw gyda dementia gan y gwirfoddolwyr i Neuadd Reichel y Brifysgol. Mae lleoedd yn gyfyngedig, a lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y bore: cysylltwch â Iona Strom erbyn 10fed Medi i gadw lle drwy e-bostio dsdcadmin@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 383050.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019