Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr
Arweinydd Cyfoed yn rhoi cymorth i fyfyrwraig newydd yn ystod Wythnos CroesoMae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, syān cefnogi myfyrwyr newydd ac yn sicrhau eu bod yn ymgynefinoān hwylus Ć¢ bywyd Prifysgol, wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Maeār Cynllun Arweinwyr Cyfoed yn paru myfyrwyr newydd gydag āArweinwyr Cyfoedā, myfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn syān gweithredu fel mentoriaid, gan drefnu gweithgareddau cymdeithasol, arwain myfyrwyr o amgylch y Brifysgol aār ddinas a rhoi cyngor cyffredinol, oār lle gorau i siopa at gynghori lle yn y Brifysgol i fynd am gefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol.
Maeān un oār cynlluniau mwyaf oāi fath ym Mhrydain, ac wedi bod yn datblygu ac ehangu ers y peilot cyntaf dros 15 mlynedd yn Ć“l. Eleni, am y tro cyntaf, bydd gan fyfyrwyr Ć“l-radd eu cynllun cyfeillio cyfatebol, sef Arweinwyr Ćl-raddedigion.
āMaeān myfyrwyr yn gwirfoddoli fel Arweinwyr Cyfoed gan eu bod yn cofioār croeso gwych a gawsant yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn y Brifysgol, ac yn awyddus i daluār gymwynas yn Ć“l,ā esbonia Kim Davies, sydd yn rheoliār rhaglen ym Mhrifysgol Bangor.
āMaeār Arweinwyr Cyfoed yn derbyn hyfforddiant trylwyr o flaen llaw, fel eu bod yn gweithredu fel āpwyntiau cyfeirioā effeithiol at wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael o fewn y Brifysgol,ā ychwanega.
Arweinydd Cyfoed yn rhoi cymorth i fyfyrwraig newyddāYn Ć“l ein profiad, rydym yn gwybod mai po gyflyma y maeār myfyrwyr newydd yn integreiddioān gymdeithasol, cyflymaf y maent yn integreiddio o safbwynt academaidd hefyd. Maeār Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu gan greu cyfleoedd iār myfyrwyr newydd gymdeithasu, gan gymryd cyfrifoldeb dros grwpiau unigol o fyfyrwyr, a thrwy drefnu gweithgareddau o fewn eu Hysgolion academaidd. Mae hyn o fudd iār myfyrwyr ac iār Brifysgol. Maeār Arweinwyr Cyfoed hefyd yn elwa, gan ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr yn y broses, ychwanegaār Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor sydd Ć¢ chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
āMae cyfraniad yr Arweinwyr Cyfoed at fywyd cymdeithasol ac academaidd y Brifysgol hefyd yn amhrisiadwy ac yn ein gwneud yn Brifysgol syān gofaluān wirioneddol,ā ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2010