Blwyddyn 7 yn profi eu gallu i sillafu mewn gwahanol ieithoedd
Reuben Chapela (chwith) gyda Llysgenhadon Iaith a myfyrwyr ErasmusMae Llysgenhadon Iaith o fewn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i sicrhau bod cystadleuaeth ddiweddar ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 o bob rhan o ogledd Cymru wedi bod yn llawn hwyl a chofiadwy. Trefnwyd y gystadleuaeth āSpelling Beeā gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru, lle bu disgyblion ym mlwyddyn 7 o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i ddangos eu doniau sillafu amlieithog. Ers mis Medi, maeār disgyblion wedi bod wrthi yn dysgu geirfa ac y buār gystadleuaeth ranbarthol yn gyfle iddynt gystadlu yn erbyn disgyblion o ysgolion eraill am y tro cyntaf.
Lansiwyd y gystadleuaeth yn ystod Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd ym mis Medi llynedd lle y datgelwyd y 50 gair cyntaf. Fe gofrestrodd dros 6000 o ddisgyblion o 59 o ysgolion yng Nghymru, dyma yw ein āSpelling Beeā mwyaf hyd yn hyn.
Cyn ennill lle yn y rownd ranbarthol, buār disgyblion wrthiān cystadluān frwdfrydig yn y rowndiau dosbarth ac ysgol yn y Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith. Teithiodd 42 disgybl o 10 ysgol i Landudno ar gyfer Rownd Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Ar ddiwedd y rowndiau rhanbarthol bydd yna seremoni wobrwyo lle gwelir y pedwar disgybl gorau o bob iaith yn derbyn tarian aār sicrwydd o le yn y Rownd Derfynol a gynhelir ym mis Mehefin. Yn ogystal Ć¢ hyn, nod pob disgybl fydd i gystadlu am yr anrhydedd o gael eu coroni fel Pencampwr y Rhanbarth ac i ddychwelyd yn Ć“l iāw ysgol Ć¢ār cwpan buddugol.
Meddai Ruben Chapela, Swyddog Llwybrau at Ieithoedd Cymru, sydd wediāi leoli ym Mhrifysgol Bangor: "Mae Llysgenhadon Iaith a myfyrwyr Erasmus Prifysgol Bangor wedi bod yn ymweld ag ysgolion yn ardal Gwynedd ac Ynys MĆ“n i annog plant o wahanol oedrannau i fanteisio ar ieithoedd ar gyfer eu TGAU neu Safon Uwch. Maeār myfyrwyr wedi cymryd rhan flaenllawān yn y gystadleuaeth drwy stiwardio ac arwain, cofrestru'r cystadleuwyr, beirniadu ac amseruār cyfranogwyr, pob un ohonynt wedi cyfrannu tuag at sicrhau bod y gystadleuaeth wedi rhedeg yn esmwyth ac yn llwyddiant mawr ".
Meddai Ceri James, Cyfarwyddwr CILT Cymru a Llwybrau at Ieithoedd Cymru āCawsom ein synnu yn 2011 gan safon uchel a chyflymder sillafuār disgyblion yn yr amrywiaeth o ieithoedd. Rwyān siŵr bod y cystadleuwyr wedi creuār un fath o argraff ar y gynulleidfa eto eleni. Maeār gystadleuaeth wedi llwyddo i hybu disgyblion i ddysgu ieithoedd a fydd yn siŵr oāi helpu wrth geisio am swyddi yn y dyfodol. Gall ieithoedd fod yn hwyl yn ogystal Ć¢ bod yn ddefnyddiol!ā.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012