Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2017
Dr Graham Bird: Athro y Flwyddyn 2017Cynhaliwyd y chweched seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.
Mae enwebiadau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd dysgu yn eu haddysg.
O’r 900 enwebiad, enwebwyd pob math o staff am eu gwaith caled yn y Brifysgol dros 13 categori gwahanol. Eleni, roedd gwobr ychwanegol ar gyfer Ysgol y Flwyddyn, lle bu Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn fuddugol.
Dywedodd yr Athro Morag McDonald, Pennaeth yr Ysgol:
"Roedd yn noson wych i’r Ysgol ac yr oedd yn braf gweld ein staff a myfyrwyr yn cael eu henwebu am wobrau. Mae ennill gwobr Ysgol y Flwyddyn yn dystiolaeth bellach o'r awyrgylch arbennig o fewn yr Ysgol, gwaith caled staff a myfyrwyr a'r berthynas adeiladol sydd gan yr Ysgol gyda'i myfyrwyr."
Hefyd, cipiodd Dr Graham Bird o’r Ysgol gwobr Athro y Flwyddyn, dywedodd:
"Mae'n anrhydedd fawr i gael eich enwebu ar gyfer gwobr, heb sôn am ei hennill. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r myfyrwyr a gymerodd yr amser i’m henwebu."
Nododd un o’r enwebiadau ar gyfer Dr Bird “Graham is extremely involved in the School from the Âé¶¹´«Ã½Ó³» where he addresses all involved, led our international fieldtrip to Tenerife which was incredibly well done, peer guiding schemes and has always been available for 1-to-1 meetings regarding assignments.â€
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr): "Mae’r Gwobrau Dan Arweiniad Myfyrwyr wedi eu sefydlu'n gadarn yng nghalendr y Brifysgol bellach ac mae digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiant mawr. Unwaith eto, roedd yr enwebiadau yn hynod ysbrydoledig ac yr oedd yn wych gweld cymaint o staff yn cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol. Mae'r gwobrau hyn yn gyfle da i bwysleisio'r gwaith gwych a wneir gan staff ar draws y Brifysgol ac yn rhoi gwybod i ni sut mae unigolion wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad addysgol ein myfyrwyr."
Dywedodd Helen Marchant, Is-lywydd Addysg a Lles yr Undeb ac un o drefnwyr y noson: “Mae bod yn rhan o’r Gwobrau yma yn brofiad gwych. Mae'r Gwobrau yn dathlu'r bartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr, dylai fod yn rhywbeth y dylai pob prifysgol ymdrechu i greu.â€
Llongyfarchiadau i enillwyr 2017:
Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg
| Dr Nia Griffith | Ysgol Seicoleg |
Gwobr Cefnogaeth Fugeilio Eithriadol | Dr Lucy Huskinson | Ysgol Athroniaeth a Chrefydd |
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn | Dr Peter Shapely | Ysgol Hanes ac Archaeoleg |
Gwobr Agored | Dr Thomas Caspari | Ysgol Gwyddorau Meddygol |
Gwobr Arloesi Myfyrwyr | Dr Andrew Davies | Ysgol Gwyddorau Eigion |
Gwobr Ryngwladol | Ali Khan | Canolfan Addysg Ryngwladol |
Athro Newydd y Flwyddyn | Rebecca Sharp | Ysgol Seicoleg |
Athro Ôl-radd y Flwyddyn | Joshua Andrews | Ysgol Athroniaeth a Chrefydd |
Gwobr Adran am Wasanaeth i Fyfyrwyr | Fiona Zinovieff | Gwasanaethau Anabledd |
Gwobr Arwr heb ei gydnabod | Paul Maclean | Gwasanaethau Eiddo a Champws |
Athro'r Flwyddyn | Dr Graham Bird | Amgylchedd, Adnoddau Naturiol, a Daearyddiaeth |
Aelod o Staff Cefnogi / | Iwan Davies | Ysgol y Gymraeg |
Aelod o Staff Cefnogi / | °Õî³¾ Gweinyddol Ysgol Peirianneg Electronig ac Ysgol Cyfrifiadureg | |
Ysgol y Flwyddyn | Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Mwy o luniau ar dudalen .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017