Diflaniad tabŵs traddodiadol yn bygwth lemyriaid Madagascar
Lemur Indri: Llun gan Rhett Butler. www.mongabay.comMae ynys Madagascar yn enwog drwyār byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiauār wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.
Mae ymchwil gan dĆ®m o aār sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddaiār rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am helaār Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn Ć“l traddodiad roedd Indri wedi achub un oāu hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu mĆŖl gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaethaār modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill syān symud iār ardal, yn rhannuār un gwerthoedd.
Bachgen efo Indri wedi marwMeddai Julie Razafimanahaka o Madagasikara Voakajy : āMae ein hymchwil yn awgrymu bod gan ddynion ifanc fwy o arian at eu dwylo a mwy o amser hamdden o ganlyniad iār symud oddi wrth ffermio i chwilio am aur. Maen nhw wedyn yn treulio mwy o amser mewn bariau lleol, yn bwyta cig wediāi ffrio efoāu diodydd. Maeān ymddangos bod hela lemyriaid ar gynnydd i gyflenwiār farchnad newydd yma. Maeār hen dabŵs yn diflannu dan bwysau globaleiddio a phobl yn symud i mewn.ā
Aeth Julia Jones, o Brifysgol Bangor, ati i egluro ymhellach: āMae bywyd gwyllt rhyfeddol Madagascar, yn arbennig ei lemyriaid byd enwog, yn eithriadol bwysig i ddyfodol y wlad. Maen nhwān werth llawer mwy iār economiān fyw nag fel cig. Dwiān gwirioneddol obeithio y gall Madagascar ddatrys y broblem yma.ā
Mae deall y rhesymau dros y pwysau, yn ogystal Ć¢ maint y broblem, yn hanfodol i ddatblygu mesurau priodol i amddiffyn lemyriaid a rhywogaethau brodorol eraill. Dangosodd yr ymchwilwyr ei bod yn well gan bobl fwyta cigoedd domestig, fel cyw iĆ¢r a phorc, na chig rhywogaethauār goedwig, megis lemyriaid. Mae pobl yn bwyta bywyd gwyllt oherwydd cost uchel darparu cig domestig mewn ardaloedd gwledig.
Meddai Richard Jenkins o , un o awduron yr astudiaeth: āByddai darparu dewisiadau eraill yn rhwyddach yn helpu'r sefyllfa. Os gellid ffermio anifeiliaid domestig yn fwy dibynadwy ac yn rhatach, efallai y byddai'r pwysau ar rywogaethau gwyllt yn lleihau. Mae angen mwy o ymdrechion i wella dulliau hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli clefydau arnynt yn ardaloedd y coedwigoedd glaw.ā
Er bod gan Fadagascar system glir o ddeddfauān ymwneud Ć¢ bywyd gwyllt, nid ydynt yn cael eu gweithreduān gadarn mewn llawer o ardaloedd. Maeār project wedi gweithio gyda llywodraeth yr ynys ar ymgyrch addysgol i helpu pobl i wybod am y deddfau sydd mewn grym a pha mor fregus yw rhywogaethau fel y lemyriaid prin. Efallai y gwnaiff yr ymgyrch arwain at werthoedd cymdeithasol newydd i gymryd lleār hen dabŵs syān prysur ddiflannu.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011