Blas ar Wyddor Chwaraeon: adnabod talent, datblygu talent a'ch gyrfa
Pam mae rhai athletwyr ifanc addawol yn cyflawni eu potensial, tra bod eraill yn cael trafferth symud ymlaen?
Sut gall hyfforddwyr, rhieni a sefydliadau chwaraeon greu amgylcheddau sy'n helpu talent i ffynnu? Ymunwch â Dr Gavin Lawrence ym Mhrifysgol Bangor i archwilio sut mae ffactorau corfforol, seicolegol a chymdeithasol yn rhyngweithio i lunio datblygiad, a pham mae'r ffordd y mae athletwyr yn ymarfer ac yn profi her yn bwysig. Gan dynnu ar ymchwil ym maes criced a chodi pwysau Olympaidd, yn ogystal ag ymchwil a gynhaliwyd mewn partneriaeth â UK Sport, bydd y sesiwn hon yn berthnasol i'r rhai sydd â diddordeb mewn hyfforddi, datblygu talent, gwyddor chwaraeon neu seicoleg chwaraeon.
Dr Gavin Lawrence
Our privacy policy can be found here.