Cyflwyno We Care: Sgrinio Serfigol Tosturiol yn ymarferol
Mae sgrinio serfigol yn achub bywydau. Er hynny, i lawer o ferched, yn enwedig y rhai sydd wedi profi trais a chamdrinaeth rhywiol gall mynychu gofal sgrinio personol deimlo’n anodd. Gall y profiadau hyn siapio sut mae sgrinio’n cael ei ganfod a’i fynychu.
Mae We Care yn brosiect ymchwil sy’n archwilio sut y gellir darparu sgrinio serfigol mewn ffyrdd tosturiol, sensitif ac ymatebol i anghenion amrywiol merched. Gan dynnu ar ymchwil rhyngwladol yng Nghymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia, mae’r prosiect yn dod â phrofiad byw, mewnwelediad ymarferwyr, a safbwyntiau’r system ynghyd i ddeall beth sy’n cefnogi menywod i deimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu, a beth all fod yn rhwystr i gyrchu gofal sgrinio serfigol.
Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud?
Mae corff sylweddol o dystiolaeth academaidd yn dangos bod cyfranogiad mewn sgrinio serfigol yn cael ei siapio nid yn unig gan ymwybyddiaeth a mynediad, ond gan sut mae’r gofal yn cael ei brofi. Mae merched sydd â hanes o drais a cham-drin rhywiol yn adrodd lefelau uwch o ofn, rhagdybiaeth o boen, colli rheolaeth ac osgoi sgrinio. Mae astudiaethau hefyd yn tynnu sylw at effaith arddull cyfathrebu, sensitifrwydd ymarferwyr, parhad gofal, hyblygrwydd apwyntiadau a chyfleoedd i ddewis. Mae dulliau sensitif, apwyntiadau hirach, esboniadau clir ac arferion darparu caniatad penodol wedi’u cysylltu â gwell cysur ac ymddiriedaeth. Mae’r dystiolaeth hon yn bwysig oherwydd mae cyfraddau sgrinio is yn gysylltiedig â diagnosis canser yn hwyrach a chanlyniadau gwaeth. Felly mae gwella ansawdd a thosturi gofal sgrinio serfigol nid yn unig yn fater moesegol ac pherthnasol, ond yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus sy’n gallu cryfhau mynediad ar sail cydraddoldeb mewn ffordd ataliol. Gellir atal canser serfigol ac mae modd ei ddileu’n deg ar draws cymunedau amrywiol.
Pam mae’r Prosiect hwn yn Bwysig
Mae merched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rhywiol yn aml yn disgrifio sgrinio serfigol fel rhywbeth sy’n heriol yn gorfforol ac yn emosiynol. Gall strwythurau apwyntiadau safonol, diffyg dewisiadau, pwysau amser, ac arddulliau cyfathrebu danseilio teimladau o ddiogelwch ac urddas.
Ar yr un pryd, mae systemau iechyd dan bwysau cynyddol i ddangos effaith, gwerth a chynaliadwyedd. Felly mae’n rhaid i welliannau mewn gofal fod yn dosturiol, wedi’u canoli ar y person ac wedi’u llywio gan dystiolaeth. Mae’r prosiect We Care yn dod â’r blaenoriaethau hyn ynghyd ac yn archwilio:
- Sut olwg sydd ar ofal sgrinio serfigol tosturiol yn ymarferol?
- Beth sy’n helpu merched i deimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu wrth gyrchu gofal sgrinio agos?
- Pa alluogwyr a rhwystrau sy’n bodoli o fewn systemau presennol?
- Sut y gellir ail-ddylunio gwasanaethau i ymateb yn fwy effeithiol drwy ddull tosturiol o ofal?
Astudiaeth Ryngwladol Aml-ffrwd
Mae’r prosiect yn tynnu ar ymchwil ar draws Cymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia. Mae’n cyfuno dulliau meintiol ac ansoddol, ochr yn ochr â chyd-gynhyrchu gyda menywod ac ymarferwyr.
Mae’r astudiaeth yn cynnwys:
- Archwilio derbynioldeb hunan-samplu HPV ymhlith menywod â phrofiad byw
- Cyfweliadau a grwpiau ffocws manwl â merched mewn pedair gwlad
- Cyfweliadau ag ymarferwyr i archwilio galluogwyr a rhwystrau system
- Gweithdai cyd-gynhyrchu i ddatblygu model gofal tosturiol drafft a phecyn cymorth i ymarferwyr
Adeiladu Model Gofal Tosturiol
Yn ganolog i’r prosiect yma mae datblygu model gofal tosturiol ar gyfer sgrinio serfigol. Trwy arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai cyd-gynhyrchu, mae merched â phrofiad byw o drais a cham-drin rhywiol ac ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd i nodi gwelliannau ymarferol ar draws taith sgrinio serfigol.
Nid yw’r ymchwil hwn yn ymwneud â gwrando yn unig, ond â thrawsnewid mewnwelediadau’n newid mesuradwy. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau economeg iechyd a gofal i asesu effaith a gwerth, gan helpu dangos sut y gall model tosturiol o ofal wella profiadau ac ar yr un pryd gefnogi gofal sgrinio ataliol cynhwysol, cynaliadwy a chost isel.
Ymunwch
Rydym yn croesawu ymgysylltiad gan ferched â phrofiad byw, ymarferwyr ac arweinwyr polisi sydd â diddordeb mewn cryfhau gofal sgrinio serfigol.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfranogiad, cydweithio a diweddariadau’r prosiect ar wefan y prosiect a’r gyfres bodlediad:/cheme/we-care-womens-empowerment-cervical-screening-access-recovery-and-empathy
Mae gan ofal tosturiol y potensial i siapio ymddiriedaeth, mynediad a chanlyniadau. Trwy ymchwil, partneriaeth a dysgu cydfuddiannol, mae We Care yn ceisio cyfrannu at wasanaethau sgrinio serfigol lle mae pob merch yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei pharchu, ac yn cael ei chlywed.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r arweinydd prosiect:
Dr Ceryl Teleri Davies, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor: ceryl.davies@bangor.ac.uk