Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor sy'n astudio Coedwigaeth o bell yn cael cydnabyddiaeth mewn cystadleuaeth goedwigaeth genedlaethol
Lansiodd , y corff sy'n cynrychioli'r sector coedwigaeth a phren ledled y Deyrnas Unedig, gystadleuaeth genedlaethol o'r enw yn San Steffan ym mis Mehefin 2019. Y dasg? Ysgrifennu traethawd neu greu ffilm fer sy'n ceisio ateb y cwestiwn “Sut ellir annog ffermwyr a thirfeddianwyr i blannu mwy o goed i sicrhau llawer o fuddion, ac yn enwedig liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd?�
Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar-lein (yn hytrach na chael eu cyflwyno gan yr Arglwydd Goldsmith, Gweinidog Defra mewn derbyniad min nos, oherwydd cyfyngiadau Covid-19). Cafodd Nathan Adams, sy'n astudio MSc Coedwigaeth (dysgu o bell) ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ganmoliaeth am ei draethawd. Meddai Nathan “y pwyntiau allweddol a wnes i yn fy nhraethawd oedd bod y diwydiant adeiladu dan bwysau cynyddol i sicrhau ei fod yn codi adeiladau 'carbon sero net'. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig y carbon gweithredol sy'n gysylltiedig ag adeilad ond hefyd y carbon ymgorfforedig (y carbon cysylltiedig sy'n deillio o'r deunyddiau adeiladu, y prosesau adeiladu, cynnal a chadw, gwaredu ac ati). Yn ei gyflwr presennol, all y diwydiant adeiladu ddim cyflawni 'carbon sero net' mewn project heb lefel benodol o wrthbwyso carbon. Roedd y traethawd y gwnes i ei gyflwyno yn gwneud y pwynt y gallai hyn fod yn ffynhonnell gyson a sylweddol o gyllid preifat i ffermwyr a pherchnogion tir trwy blannu coed.�
Wrth feddwl am y gydnabyddiaeth gyhoeddus a gafodd am ei waith, dywedodd Nathan “Dwi wrth fy modd fy mod i, fel myfyriwr coedwigaeth, wedi gallu ysgrifennu rhywbeth sydd wedi dal sylw gweithwyr proffesiynol coedwigaeth Confor. Dwi’n gobeithio y bydd yr erthygl yn cael ei darllen yn ehangach gan bobl yn y diwydiant unwaith y bydd wedi ei chyhoeddi ar wefan Confor.
�Dywedodd cyfarwyddwr cwrs Nathan, yr Uwch Ddarlithydd Coedwigaeth, James Walmsley, o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol: “Dwi'n falch iawn bod syniadau Nathan wedi cael eu cydnabod fel hyn. Mae coedwigaeth yn cynnig potensial aruthrol i liniaru newid yn yr hinsawdd, yn enwedig os ydy coed yn cael eu tyfu gyda'r bwriad o gynhyrchu deunyddiau adeiladu o ansawdd uchel sydd i bob pwrpas yn 'cloi' carbon mewn adeiladau am ddegawdau lawer. Fel myfyriwr coedwigaeth rhan amser sydd hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd cynaliadwyedd i Focus Consultants, mae Nathan mewn sefyllfa ddelfrydol i adnabod a datblygu cyfleoedd o'r fath ar gyfer coedwigaeth. � Wrth edrych i'r dyfodol, soniodd Nathan am ei fwriadau: “Yn gyntaf, mi fyswn i'n licio ailedrych ar y pwnc yma ar gyfer fy nhraethawd MSc. Yna mi fyswn i'n licio gweld y sector adeiladu yn cymryd camau sylweddol tuag at ddod yn garbon sero net a helpu'r sector coedwigaeth i gyrraedd targedau plannu blynyddol newydd ar yr un pryd. Mi fyddai'n wych cael bod yn rhan o ddatblygiad o'r fath yn y ddau sector.
�Dywedodd James Walmsley “mae ein rhaglenni dysgu o bell yn parhau i ddenu myfyrwyr hŷn hynod dalentog, ac mae llawer ohonyn nhw'n mynd ymlaen i wneud cyfraniadau sylweddol i goedwigaeth a choetiroedd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae gan gymdeithas ddiddordeb mawr mewn coed, coetiroedd a choedwigoedd, ond eto ychydig iawn o bobl sy'n dewis eu hastudio'n academaidd.� Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn astudio MSc Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Nathan “Gwnaeth fy ngwraig imi sylweddoli, yn hytrach na siarad am goed a choedwigoedd efo hi a'u hystyried fel dim mwy na diddordeb, y dylwn fynd ati i'w hastudio. Wn i ddim pam na wnes i sylweddoli hynny fy hun ond wedi dweud hynny mae hi'n aml yn gwybod sut rydw i'n teimlo cyn fy mod i'n gwybod fy hun!�Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio am radd sy'n gysylltiedig â'r stori hon ym Mhrifysgol Bangor, ewch i www.bangor.ac.uk/natural-sciences/subject-areas/forestry/ neu cysylltwch drwy e-bost forestry@bangor.ac.uk / ffôn +44 1248 382881 / 2351 / cyfryngau cymdeithasol @BUForestry.