Âé¶¹´«Ã½Ó³»­

Fy ngwlad:

Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd

Talebau Arloesi

  • Gwerth: Hyd at £5K
  • Hyd:  5 – 8 dyddiau o gefnogaeth 

Mae talebau yn adenilladwy ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau ac ymrwymiadau: 

  • Mynediad i Gwybod Sut / Gwybodaeth Newydd
  • Prosiectau Ymchwil a Datblygu / Arloesi
  • Gwasanaethau Ymgynghorol / Dadansoddol
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Sgiliau a Hyfforddiant
  • Defnyddio offer arbenigol / cyfleusterau'r Brifysgol

Sut Mae'n Gweithio?

1. Gwneud Cais

Cwblhewch ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI). Byddwn yn adolygu eich cymhwysedd ac yn trafod eich her arloesi, anghenion busnes, neu syniad ar gyfer prosiect.

2. Cwmpsu’r Prosiect

Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i ddeall eich gofynion a nodi'r arbenigedd, cyfleusterau, gwasanaethau neu gymorth arbenigol mwyaf addas sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor

3. Adolygiad Panel

Gwahoddir sefydliadau cymwys i gyflwyno cais ffurfiol. Gan fod y cyllid yn gyfyngedig, caiff ceisiadau eu hasesu a'u blaenoriaethu yn erbyn meini prawf y rhaglen. Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus unwaith y bydd penderfyniadau'r adolygiad wedi'u gwneud.

4. Defnyddio'r Daleb

Unwaith y caiff ei dyfarnu, bydd eich taleb yn cael ei defnyddio i gael mynediad at arbenigedd a gwasanaethau arbenigol Prifysgol Bangor gwerth hyd at £5,000.

Talebau Talent Graddedigion

Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fusnesau gynnig lleoliadau arloesol i raddedigion Gwynedd, gan eu galluogi i ymuno â’u sefydliadau am gyfnod, a chael profiad ymarferol wrth gymhwyso eu sgiliau a’u cymwysterau yn y gweithle e.e. datrys problemau, datblygu cynnyrch newydd neu archwilio syniadau busnes. 

  • Gwerth: Hyd at £6,000
  • Hyd: 3 mis

Gellir defnyddio’r taleb i:

  • Ariannu lleoliad graddedig am 3 mis, wedi’i dalu ar gyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol
  • Manteisio ar sgiliau graddedigion a safbwyntiau ffres
  • Cynyddu capasiti i gefnogi twf eich sefydliad
  • Archwilio’r posibilrwydd o recriwtio eich cyflogai nesaf

Sut Mae'n Gweithio?

1. Gwneud Cais

Cwblhewch ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI). Byddwn yn adolygu eich cymhwysedd ac, os ydych yn gymwys, yn eich gwahodd i gyflwyno cais ffurfiol.

2. Recriwtio

Gallwn eich cefnogi gyda’ch recriwtio drwy hysbysebu’r  ail i gyda’n cronfa o raddedigion, neu gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â graddedigion penodol sy’n berthnasol i’ch swydd yn ein barn ni. Bydd graddedigion yn gwneud cais uniongyrchol am eich swydd wag, i chi wedyn greu rhestr fer a chyfweld.  

3. Onboard

Ar ôl i chi wneud cynnig am interniaeth, dylech ddilyn eich proses Adnoddau Dynol arferol i gyda’ch gweithiwr newydd.  Dylai'r gwaith dros dro fod am 420 awr, gan dalu cyfraddau cyflog y Real Living Wage. Fel cyflogwr yr intern, eich cyfrifoldeb chi fydd rheoliadau arferol treth, yswiriant gwladol, gwyliau a thâl salwch.

4. Derbyn Cyllid

Ar ôl i'n gwaith papur gael ei lofnodi, byddwch yn ein hanfonebu am grant di-dreth a byddwn yn gwneud y taliad pan fydd y myfyriwr graddedig yn dechrau gweithio.

Pwy All Gymryd Rhan?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i sefydliadau fodloni'r meini prawf canlynol: 

  • Rhaid i'r safle busnes fod wedi'i leoli yn Gwynedd neu Ynys Môn
  • Anogir Ceisiadau gan sefydialdau preifat sy’n gweithredu yn y sectorau canlynol: Cynhyrchu Uwch,  Ynni Glân,  Digidol a Thechnolegau,  Creadigol,  Gwyddorau Bywyd,  Gwasanaethau Ariannol neu Professional
  • Gall pob sefydliad sy'n cymryd rhan gynnig uchafswm o un intern yn y rownd ariannu hon
  • Rhaid i’r daleb gael ei dyrannu i brosiect neu interniaeth erbyn 30 Mawrth 2027
  • Rhaid i sefydliadau gofrestru ac ymrwymo i'n polisi hysbysebu drwy borth CyswlltGyrfa Prifysgol Bangor  
  • Mae anfonebau am hawliadau grant yn amodol ar Delerau ac Amodau Pryniant | Prifysgol Bangor a gellir ei hawlio o fewn 90 diwrnod i'r dyddiad dechrau.

Unwaith y bydd y gwaith papur wedi'i lofnodi a'r lleoliad wedi dechrau, byddwch yn anfon anfoneb atom am grant o £6000 a byddwn yn gwneud y taliad o fewn 90 diwrnod i ddechrau’r interniaeth.

Beth nesaf?

Ebostio Gydag Unrhyw Gwestiynau

*Ar gyfer prosiectau taleb yng Ngwynedd, bydd angen i brosiectau ddangos eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategaeth economaidd y sir, Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035. Bydd hyn yn cael ei archwilio yn ystod y broses ymgeisio.

Logos Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Llywodraeth Cymru, Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

ASTUDIAETHAU ACHOS

Twr marcwis yn y cefndir gyda pedwar person yn gwenu i'r camera
O'r chwith i'r dde, Elspeth Smith – Swyddog Addysg, Peter Davies OBE, un o Ymddiriedolwyr Colofn Tŵr Marcwis, Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes a Michael Butler, Cyfarwyddwr Rhanbarth, Canolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy yr Ysgol Fusnes o flaen Tŵr Marcwis

Colofn Tŵr Marcwis Ynys Môn

Mae tîm prosiect o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi tri argymhelliad allweddol er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng safle Colofn Tŵr Marcwis yn Llanfair Pwllgwyngyll ag ymwelwyr.

Gwyddonydd mewn Labordy

Interniaeth Graddedig - Pennotec Ltd Evie Mainwaring

Darllenwch am daith ein graddedigion i gyflogaeth amser llawn gyda Pennotec Ltd.

Masi Jahan
Masi Jahan
Credit:Âé¶¹´«Ã½Ó³»­

Masi Jahan

O Afghanistan i Ynys Môn: Masi’n gwneud gwahaniaeth trwy interniaeth i raddedigion sy’n paru sgiliau a swyddi

Dwy ddynes yn gwenu i'r camera gyda baner GISDA tu ôl

Gwen Owen

Dysgu oddi wrth ein gilydd – cynllun newydd a fu o fudd i rieni ifanc ac i fyfyriwr sydd newydd raddio o Brifysgol Bangor.

Tri person yn edrych ar y camera mewn labordy yn gafael mewn sebon
Yn y llun, o'r chwith: Jonathan Nicols o'r Ganolfan Biocomposit, Nicola Sturrs o Brifysgol Bangor a Selwyn Owen o Iona Materials
Credit:Âé¶¹´«Ã½Ó³»­

IONA Minerals Selwyn Owen

IONA Minerals yn partneru â Phrifysgol Bangor i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu ar Sebon Diwydiannol Eco-Gyfeillgar.

Debbie Ann Turnbull, MBE, gyda myfyrwyr y cyfryngau ac academyddion o Brifysgol Bangor
Mae sylfaenydd River and Sea Sense, Debbie Ann Turnbull, MBE, wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr y cyfryngau ac academyddion o Brifysgol Bangor i greu ffilm ddogfen fer.

River and Sea Sense Debbie Ann Turnbull MBE

Mae sylfaenydd River and Sea Sense, Debbie Ann Turnbull, MBE, wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr y cyfryngau ac academyddion o Brifysgol Bangor i gynhyrchu ffilm ddogfen fer i’r 'River and Sea Sense Training Academy.'