Er mwyn helpu i gynnal amgylchedd campws diogel ac iach, rhaid i bob myfyriwr gwblhau'r modiwl Iechyd a Diogelwch.
Mae'r modiwl yn darparu gwybodaeth bwysig am y mesurau diogelwch sydd ar waith yn y brifysgol a'ch rôl chi wrth eu cefnogi. Cymerwch yr amser i adolygu'r deunydd yn ofalus gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Bydd y ddolen yn mynd â chi i dudalen Blackboard Croeso'r Ysgol. Yma, fe welwch recordiadau o sesiynau Wythnos y Croeso, dolenni defnyddiol i dudalennau gwe ac adnoddau perthnasol, copi electronig o lawlyfr eich rhaglen, a'r modiwl hwn.
I gael mynediad at dudalen Blackboard, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr Prifysgol Bangor — sef rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost prifysgol — a'ch cyfrinair (er enghraifft, xyz2def).