Mae Prifysgol Bangor ar ei ffordd i Lantwd, Sir Benfro, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026, o ddydd Sadwrn 1 Awst tan ddydd Sadwrn 8 Awst. Bydd y digwyddiad eleni yn dathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf erioed yn 1176.
Ymunwch â ni ar gyfer ein haduniad rheolaidd o gyn-fyfyrwyr ar stondin Prifysgol Bangor 1.30 – 2.30pm ar ddydd Mercher, 5 Awst 2026.
Byddwch yn cael eich croesawu gan Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol a fydd yn son am rai o’r datblygiadau sy’n digwydd yn y Brifysgol. Yna, rydym yn falch iawn y bydd ein cyn-fyfyriwr, Emyr Afan (Cymraeg, 1985), yn ymuno â ni fel ein siaradwr gwadd. Mae Emyr yn gynhyrchydd teledu arobryn gyda Bafta, mae’n gyfarwyddwr aml-gamera ac mae’n greadigol ei syniadau. Fel Prif Swyddog Gweithredol Afanti Media, mae wedi adeiladu un o'r cwmnïau cynhyrchu teledu hynaf a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Bydd Emyr yn rhannu rhywfaint o atgofion o'i gyfnod ym Mangor a sut y gwnaeth ei gyfnod yn y Brifysgol ei arwain i fod yn un o ddynion busnes blaenllaw Cymru yn ei faes.
Yna fydd digon o amser i ddal i fyny hefo’ch cyd cyn-fyfyrwyr a staff. Mae drwg gennym nad ydym yn gallu cynnig lluniaeth fel rydan ni wedi gwneud yn y gorffennol.
Bydd stondin Prifysgol Bangor yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau, sesiynau, dadleuon, lansiadau a chyflwyniadau drwy gydol yr wythnos, felly cofiwch dod draw!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd yn ôl i'r Eisteddfod!