Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r modiwl hwn yn archwilio gwerth cydweithio mewn ymarfer proffesiynol, gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol i archwilio ei effaith ar ddysgwyr. Bydd myfyrwyr yn adfyfyrio'n feirniadol ar ddulliau cynhwysol a theg sy'n cefnogi lles, diogelu ac amgylcheddau dysgu effeithiol. Asesir drwy boster academaidd wedi'i anodi ar strategaethau cydweithredol mewn addysg.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Ymarferwyr sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y sector addysg. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Uwch arweinwyr
- Athrawon
- Cynorthwywyr addysgu
- Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Ymarferwyr sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol
- Partneriaid gwella ysgolion
- Staff Estyn
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Erbyn diwedd y modiwl dylai'r myfyriwr allu:
- Cydnabod ac amddiffyn gwerth cydweithio 芒 chydweithwyr, dysgwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu dysgu pob person ifanc.
- Arfer eu cyfrifoldebau cytundebol, bugeiliol, cyfreithiol a phroffesiynol er mwyn diwallu anghenion a gwneud y mwyaf o botensial pob dysgwr.
- Rheoli eu lles eu hunain, yn ogystal 芒 datblygu eu gallu i gyfrannu at les a diogelu'r dysgwyr yn eu gofal.
- Dadansoddi a gwerthuso eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain ynghylch addysgu a dysgu yn feirniadol er mwyn datblygu fel ymarferydd myfyriol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn yn rhedeg dros tair ar ddeg wythnos. Disgwylir i fyfyrwyr weithio trwy lyfrau gwaith hunan-dywys a mynychu dwy sesiwn 'cwrdd 芒'r tiwtor' cydamserol 1 awr o hyd.
Gwybodaeth am asesiadau
Poster academaidd 4,000 o eiriau gyda nodiadau yw'r aseiniad ar gyfer y modiwl hwn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yn fodiwl cyflwyniadol i ymarferwyr heb TAR diweddar. Bydd myfyrwyr yn dysgu am werth a phwrpas cydweithio proffesiynol mewn addysg, gan archwilio sut y gall cydweithio godi safonau i bob dysgwr. Byddant yn archwilio tystiolaeth ryngwladol ar wahanol fathau o gydweithio a'u heffaith, ac yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae arferion cynhwysol, teg, a chanolbwyntio ar y myfyriwr yn cael eu cefnogi trwy ymgysylltu cydweithredol.
Gwybodaeth bellach
Mae pob llyfr gwaith ar-lein ar gael yn ddwyieithog. Lle bo modd, cynigir sesiynau cydamserol ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd bynnag, nodwch, os nad oes digon o gyfranogwyr sy'n siarad Cymraeg i alluogi trafodaeth ystyrlon, efallai y cewch wahoddiad i ymuno 芒 sesiwn cyfrwng Saesneg.
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 fydd 拢975.00 (yn cynnwys TAW).
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Mae angen i ymgeiswyr fod 芒 gradd israddedig mewn unrhyw bwnc. Er mwyn cwblhau gweithgareddau myfyriol o fewn y llyfrau gwaith a'r aseiniadau, bydd rhaid i ymgeiswyr hefyd fod mewn r么l gyfredol o fewn y sector addysg.
Lefel o sgiliau iaith Saesneg
Rhugl.
Lefel o sgiliau iaith Gymraeg
Rhugl, os ydych chi am gymryd rhan drwy'r llwybr cyfrwng Cymraeg.
Nid oes angen os ydych chi'n cwblhau'r cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 鈥淐eisiadau heb ddyfarniad / Modiwlau Unigol鈥�, yna dewiswch 鈥溍攍-raddedig heb ddyfarniad, Lefel 7鈥�.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Addysg(NGGT/EDU). Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol: y cod yw: XME-4310; XMC-4310. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥� * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥� i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.