Lliwio Clymu Tsieineaidd: Creu Eich Bandana Lliwgar Eich Hun!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ymunwch â’n Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd i archwilio traddodiadau lliwio clymu pobl y Bai yn Dali! Darganfyddwch sut mae plygu a chlymu yn troi ffabrig plaen yn batrymau hardd, yna crëwch eich bandana cotwm lliwgar eich hun.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Darganfyddwch y pleser o droi ffabrig plaen yn greadigaeth batrymog gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Archwiliwch draddodiadau lliwio clymu pobl y Bai yn Dali, Tsieina, a dysgwch sut mae plygu a chlymu ffabrig yn dylanwadu ar y patrwm terfynol. Gyda chyfarwyddyd, byddwch yn crynhoi ac yn clymu bandana cotwm cyn rhoi lliw arno i greu eich patrwm eich hun.
Rhan o’r cyffro yw darganfod sut mae eich patrwm yn edrych yn y diwedd! Ewch â’ch bandana adref, ynghyd ag unrhyw gyfarwyddiadau sydd eu hangen i gwblhau’r broses ar gyfer y lliw a ddefnyddiwyd.