Dylunio Hanfu Papur: Plygu ac Addurno Dillad Tsieineaidd Traddodiadol!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ymunwch â’n Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd i ddarganfod ceinder Hanfu, dillad Tsieineaidd traddodiadol! Archwiliwch eu siapiau a’u harddulliau nodedig, yna plygwch ac addurnwch ddilledyn papur bach i fynd adref gyda chi.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Archwiliwch ddillad Tsieineaidd traddodiadol drwy weithdy crefft papur lliwgar gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Darganfyddwch Hanfu, ei hanes a rhai o’i siapiau a’i arddulliau nodweddiadol. Dilynwch weithgaredd plygu dan arweiniad i greu dilledyn papur bach, yna rhowch eich cyffyrddiad personol iddo gyda lliwiau, patrymau a manylion addurniadol o’ch dewis.
Cyfunwch gyflwyniad i draddodiadau dillad Tsieineaidd â’r mwynhad o ddylunio eich cofrodd papur eich hun.