Darganfyddwch y cwrs Gwleidyddiaeth i chi
Diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor?
Mae ein cwrs byr rhad ac am ddim wedi ei dylunio ar gyfer myfyrwyr lefel A ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth yn y brifysgol. Maent yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut beth yw astudio Gwleidyddiaeth ar lefel gradd.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwleidyddiaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwleidyddiaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwleidyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Gweithio gyda'r gymuned
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Ein projectau diweddar
Gweld MwyEin Hymchwil o fewn Gwleidyddiaeth
Mae'r ymchwil gyffrous a phwysig a wneir gan ein staff academaidd yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn cynnwys ystod eang o bynciau ac arbenigeddau ym maes gwleidyddiaeth, gan gynnwys themâu megis: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles; Cymunedau, Diwylliannau, Iaith a Hunaniaethau; Trosedd, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas; Llywodraethu, Hanes Gwleidyddol a llawer mwy.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.