Pum rheswm dros astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Os ydych am astudio’r Gymraeg mewn prifysgol, Bangor yw’r dewis amlwg i wneud hynny gan fod y ddinas wedi’i lleoli yng Ngwynedd, sir Gymreiciaf Cymru o ran canran a nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae astudio ym Mhrifysgol Bangor yn gyfle i’ch trochi eich hun yn sŵn y Gymraeg a byw eich bywyd drwy gyfrwng yr iaith. Mae’r cyfleoedd i gymdeithasu yma heb eu hail, gydag UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr, ac mae llwyth o ddigwyddiadau Cymraeg yn cael eu cynnal ym Mangor ac yn yr ardal gyfagos hefyd, o ddramâu i gigs a nosweithiau comedi.
Mae gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn sylfaen gref a chadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Mae’n graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon, darlithwyr, newyddiadurwyr, awduron, golygyddion, tiwtoriaid Cymraeg, gweision sifil, gwleidyddion, ymchwilwyr, cyfieithwyr, gweithwyr mentrau iaith a llywodraeth leol, llyfrgellwyr a gweithwyr mewn amgueddfeydd ac yn y diwydiant treftadaeth.
Nid oes y fath beth â gyrfa ‘draddodiadol’ i bobl â gradd yn y Gymraeg; mae dilyn cwrs gradd yn y Gymraeg yn golygu meithrin a mireinio sgiliau trosglwyddadwy ardderchog, megis ysgrifennu’n hyderus a chywir, arwain a chymryd rhan mewn trafodaethau, deall a dadansoddi gwybodaeth, cyflwyno syniadau a dadleuon, sy’n agor drysau i lawer o wahanol swyddi. Mae 100% o’n graddedigion naill ai mewn gwaith neu’n dilyn cyrsiau ôl-raddedig 15 mis ar ôl graddio, sy’n brawf o werth gradd yn y Gymraeg o Fangor yn y byd gwaith .
Mae'r darlithwyr a fydd yn eich dysgu yn arbenigwyr yn eu priod feysydd, a bod yr adran Astudiaethau Celtaidd yn un o’r rhai uchaf ei bri ym maes, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd i gyd. Mae’n darlithwyr yn cael gwahoddiadau cyson i feirniadu prif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, i ddarlithio i gymdeithasau lleol ar hyd a lled y wlad, i drafod amrywiol bynciau ar y teledu a’r radio ac mewn cylchgronau, ac i draddodi papurau a darlithoedd mewn cynadleddau. Bangor oedd cartref y XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, cynhadledd fwyaf a phwysicaf y byd Astudiaethau Celtaidd, yn 2019, a thros y blynyddoedd diwethaf mae’n darlithwyr wedi bod yn darlithio a chymryd rhan mewn cynadleddau mewn llefydd mor amrywiol â Gwlad Pwyl, yr Almaen, yr Iseldiroedd, ac Unol Daleithiau America.
Gan fod Ysgol y Gymraeg yn gymharol fechan, mae pawb yma’n adnabod ei gilydd, ac mae gennym gymuned glós o fyfyrwyr a darlithwyr. Yn gymdeithasol, bydd astudio ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfle ichi ddod i adnabod cannoedd o bobl newydd, ond yn academaidd, byddwch yn cael darlithoedd a seminarau mewn criwiau bychain mewn awyrgylch agos atoch. Byddwch chi’n adnabod eich darlithwyr, bydd eich darlithwyr yn eich adnabod chithau, a bydd digonedd o gyfleoedd ichi gael sylw unigol er mwyn trafod eich gwaith academaidd neu faterion eraill. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith ein bod yn adnabod ein myfyrwyr yn unigol, ac yn rhoi pob cefnogaeth bosib iddynt er mwyn eu gweld yn llwyddo.
Ni fu amser pan fu mwy o angen graddedigion disglair a brwdfrydig ar y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac nid yw hynny’n mynd i ddigwydd heb athrawon, tiwtoriaid, newyddiadurwyr, awduron, gweision sifil a llu o bobl eraill Cymraeg eu hiaith sy’n mynd i ysbrydoli pobl a sefydliadau i gofleidio’r iaith a’i chryfhau ym mhob cornel o Gymru. Mae astudio Cymraeg yn brofiad bythgofiadwy, yn gyfle ichi ddod i adnabod iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru yn well; mae’n gyfle ichi gael eich cyffroi gan lyfrau a syniadau. Ac os dewiswch ddod i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gallwch fod yn gwbl sicr y bydd pa bynnag yrfa y dewiswch ei dilyn ar ôl graddio yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
O gefnogaeth bersonol a chyfleoedd cyffrous i gymuned Gymraeg bywiog, mae digon o resymau dros ddewis yr Ysgol Gymraeg ym Mangor.
#1 yn y DU
am Ansawdd Addysgu yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda y mae staff dysgu'n egluro pethau a pha mor aml maen nhw'n herio myfyrwyr i gyflawni eu gwaith gorau.
Boddhad Cyffredinol o 100%
mewn Astudiaethau Cymraeg (NSS 2026)
#1 yn y DU
am Gyfleoedd Dysgu yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda y mae'r cwrs wedi datblygu gwybodaeth myfyrwyr, a pha mor dda oedd y cwrs am gyflwyno pynciau a sgiliau sy'n datblygu dysgu myfyrwyr. (NSS 2026)
#1 yn y DU
am Gymorth Academaidd yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor hawdd oedd cysylltu â staff addysgu a pha mor dda oedd staff addysgu am gefnogi myfyrwyr gyda'u dysgu. (NSS 2026)
#1 yn y DU
am Drefniadaeth a Rheolaeth yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda oedd y cwrs wedi'i drefnu a pha mor dda y cyfathrebwyd newidiadau i'r addysgu ar y cwrs. (NSS 2026)
#1 yn y DU
ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda y mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr. (NSS 2026)
#1 yn y DU
am Lesiant yn Astudiaethau Cymraeg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda y cyfathrebwyd gwybodaeth am wasanaethau cymorth llesiant meddwl y brifysgol. (NSS 2026)
Dod o hyd i'r cwrs Cymraeg i ti
Trawsgrifiad fideo: Proffil myfyriwr - Lili Jones - Tud Cymraeg
Lili dwi, ond ella bod chi’n fy adnabod i o...Lili Jones yn derbyn, yn ergydio...o ‘na chi gôl! Lili Jones o bell. Lili Jones! Am daran o ergyd o bellter! Up the town!
Lili Mai Jones dwi o Wrecsam a dwi’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau mynd i’r brifysgol ond gan fy mod yn chwarae pêl-droed i Wrecsam, doeddwn i ddim yn gallu bod yn rhy bell o gartref. Felly Bangor oedd lle roeddwn i eisiau bod. Digon pell o adref ond yn gallu mynd yn ôl hefyd i sesiynau ymarfer.
Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i’r brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy pêl-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae’r Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i’r pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint. Dw i wedi dysgu am Gymraeg y canol oesoedd, dwi’n dysgu am llenyddiaeth dwi erioed wedi gweld o’r blaen ac mae hynny wedi cymryd fy niddordeb.
Dwi’n siarad Cymraeg bob dydd rwan. Pryd oeddwn i adref yn Wrecsam, roeddwn i’n siarad lot o Saesneg. Doeddwn i ddim yn cael y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd. Mae Bangor wedi helpu fi hefo hynny. Dwi’n siarad Cymraeg normal hefo fy ffrindiau bob dydd ond dwi hefyd yn cael hwb gan ddarlithwyr ar sut i ysgrifennu traethodau a meddwl am sut dwi’n ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.
Dwi’n caru chwarae pêl-droed a dwi hefyd yn caru’r Gymraeg. Mae Nain yn dweud bod fy nghyfweliadau pêl-droed yn mynd yn well ac yn well. Mae dod i Fangor wedi dangos i fi fod yna gymaint mwy ti’n gallu gwneud hefo gradd yn y Gymraeg. Mae’n radd cŵl i astudio!
Dwi wedi gwneud ffrindiau oes yma. Mae nhw’n dod i wylio gemau pêl-droed fi, a mae nhw efo fy nghefn i trwy bopeth. Mae byw bywyd ym Mangor yn class, mae pawb yn siarad Cymraeg yma! Mae o’n od i fi, mynd i’r siop cebab ar ddiwedd noson allan ac mae’r boi tu ôl i’r cownter yn siarad Cymraeg, mae o mor od i mi! Ond ia, dwi’n rili mwynhau fy hun yma!
Dwi’m yn meddwl oeddwn i’n hollol siwr am Fangor cyn dod yma ond dwi wedi mwynhau bob munud yma, o’r darlithoedd, i fod allan hefo ffrindiau fi, i fyw yma. Yndi, mae o’n class o le!
Stori Lili Pêl-droed a'r Gymraeg ym Mangor
"Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i’r brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy pêl-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae’r Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i’r pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint."
Stori Lois "Ewch amdani, astudiwch y Gymraeg ym Mangor!"
Pam Bangor?
"Fe wnes i ddewis astudio’r Gymraeg ym Mangor gan fod awyrgylch gartrefol a chefnogol iawn yn Adran y Gymraeg. Sylweddolais bod astudio’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau, a gan fod y Brifysgol mewn ardal Gymraeg, roeddwn yn hyderus y byddai astudio’r Gymraeg yma yn brofiad gwych."
Beth sy’n gwneud y gefnogaeth gan ddarlithwyr yr Adran Gymraeg mor arbennig?
Does dim byd yn ormod i ddarlithwyr yr Adran Gymraeg, rydym fel myfyrwyr yn gwybod bod eu cefnogaeth ar gael unrhyw adeg. Mae pob darlith wedi’i chynllunio’n fanwl ac yn cael y gorau ohonom pob wythnos.
Sut mae dy radd yn y Gymraeg yn siapio dy ddyfodol?
"Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i’r holl gyfleoedd sydd ar gael wrth i chi astudio gradd yn y Gymraeg. Drwy ein hastudiaethau, rydym yn dysgu sgiliau sydd yn ein paratoi ar gyfer pa bynnag lwybr byddwn yn ei dilyn."
Blas ar ein cymuned glos...
Stori Liam O Fangor i'r BBC: Taith o'r Brifysgol i'r Ystafell Newyddion
"Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd."
"Dwi bellach yn gohebu ar draws gwasanaethau BBC Cymru yn y Gymraeg a Saesneg ac ar deledu, radio ac ar-lein. Fy mhrif ffocws bellach yw darganfod straeon gwreiddiol a gohebu i raglen Newyddion S4C. Mae’n swydd wych sy’n rhoi y cyfle imi gwrdd a phobl newydd a theithio i bob math o lefydd yng Nghymru a thu hwnt."
Ein Hymchwil o fewn Cymraeg
Mae gan Adran y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith aelodau’r staff mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.
Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.