Â鶹´«ýӳ»­

Fy ngwlad:
 fideo pwnc cyfrifeg, bancio a chyllid.mp4

Graddau Cyfrifeg, Bancio a Chyllid Israddedig

Tyrd i baratoi ar gyfer dyfodol llawn posibiliadau gyda gradd mewn Cyfrifeg, Bancio, Dadansoddeg Data neu Gyllid ym Mhrifysgol Bangor. Datblyga sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanynt trwy ddysgu ymarferol, offer o safon diwydiant, a heriau busnes yn y byd go iawn. Gyda chefnogaeth bersonol, cysylltiadau byd-eang, a chymuned glos, byddi di’n adeiladu rhwydwaith cryf ac yn barod i ffynnu mewn amgylchedd byd-eang.

Ar y dudalen hon:
Cyrsiau cyfrifeg, bancio a chyllid

Dod o hyd i'r cwrs Cyfrifeg, Bancio a Chyllid i ti

Bancio a Chyllid - BSc (Anrh)
Datblygwch  wybodaeth a sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr yn y sector ariannol, gan ddarparu  sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa.
Cod UCAS
N391
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i chi eich hun mewn cyllid a lansiwch eich gyrfa bancio. Enillwch wybodaeth hanfodol a pharatoi ar gyfer cymwysterau proffesiynol trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
N39F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Bancio gyda Thechnoleg Ariannol - BSc (Anrh)
Cyfunwch feysydd cyllid a thechnoleg. Datblygwch a dadansoddwch gynhyrchion ariannol, llywio'r chwyldro digidol, a lansio gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Cod UCAS
N312
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bancio gyda Thechnoleg Ariannol (gyda blwyddyn sylfaen) - BSc (Anrh)
Datblygwch a dadansoddwch gynhyrchion ariannol, llywio'r chwyldro digidol, a lansio gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Cod UCAS
N32F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Cyfrifeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i feistroli dadansoddi datganiadau ariannol, rheoli buddsoddiadau, ac asesu risg. Sicrhewch yrfa sy'n rhoi llawer o foddhad mewn sectorau cyllid amrywiol.
Cod UCAS
NN4H
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i chi eich hun mewn cyllid a lansiwch eich gyrfa. Paratowch ar gyfer cymwysterau proffesiynol trwy wneud blwyddyn sylfaen bwrpasol.
Cod UCAS
NN4F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifeg a Rheolaeth - BSc (Anrh)
Mae'r radd hon, sydd â gogwydd proffesiynol iddi, mewn Cyfrifeg a Rheolaeth yn cyfuno eich diddordebau yn y ddau bwnc. Enillwch set sgiliau unigryw a chael gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N4N2
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifeg a Rheolaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn Cyfrifeg a Rheolaeth. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr y diwydiant, byddwch yn meistroli sgiliau academaidd a digidol hanfodol, ac yn gweithio tuag at eithriadau o arholiadau cyfrifyddu proffesiynol.
Cod UCAS
N4NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Dadansoddeg Data Busnes - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N313
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Dadansoddeg Data Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N31F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Economeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1N3
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg gyda'r cwrs blwyddyn sylfaen hwn. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL
Dau fyfyriwr yn cerdded drwy adeilad modern Pontio ym Mhrifysgol Bangor, yn gwenu. Mae graffig tarian goch a'r testun “Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor” yn dangos.
Trawsgrifiad fideo: Ysgol Fusnes Albert Gubay

[DISGRIFIAD SAIN] Golygfa eang o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor ar ddiwrnod clir. Mae myfyrwyr yn astudio'n dawel yn llyfrgell y Brifysgol wrth i ddarlithydd annerch y camera.

[TROSLAIS] Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd anrhagweladwy, a gall fod yn anodd i bobl ddeall sut y gallant byth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn sefyll ar ochr bryn, wedi'i amgylchynu gan goed. Y tu mewn, mae myfyrwyr yn mynychu darlith ac yn ysgrifennu nodiadau. Darlithydd yn siarad yn uniongyrchol i'r camera.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ein cred greiddiol yw y gellwch ysgogi newid cadarnhaol, ar draws y byd gyda’r addysg gywir a’r set sgiliau gywir.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad â darlithydd mewn caffi, gan drafod eu gwaith.

[TROSLAIS] Rydym yn hyderus o hyn oherwydd bod ein staff ymchwil, a'n graddedigion, yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd, gan fynd i'r afael â heriau busnes y byd go iawn.

[DISGRIFIAD SAIN] Ar y Llawr Masnachu, mae myfyrwyr yn gweithio mewn terfynellau Bloomberg wrth i ddarlithydd esbonio data ar sgrin fawr. Mae lluniau byr yn dangos Llundain, strydoedd y ddinas, gwaith cynaliadwyedd, a gweithgarwch ymchwil.

[TROSLAIS] Boed hynny'n defnyddio dadansoddeg data i yrru effeithlonrwydd stryd fawr leol, datblygu polisïau cynaliadwy pendant ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r perthnasoedd rhwng brandiau a sbwriel, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy'n well i'w hiechyd a'r amgylchedd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae dau fyfyriwr yn cerdded gyda'i gilydd drwy'r Prif Adeilad, yna'n gweithio ar liniadur yn Neuadd Pritchard Jones.

[TROSLAIS] Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae golygfeydd o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos, gyda mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Mae myfyrwyr yn gweithio ar y Llawr Masnachu ac yn Llyfrgell Shankland.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae traddodiad yn cwrdd ag arloesedd, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, megis ein terfynellau Bloomberg, ychydig funudau ar droed o Ddarllenfa Shankland.

[DISGRIFIAD SAIN] Dangosir yr Hen Goleg ar ddiwrnod clir, wedi'i amgylchynu gan wyrddni. Mae academydd yn siarad â'r camera. Mae ffotograff hanesyddol o'r Brifysgol yn ymddangos.

[TROSLAIS] Nid damwain yw twf a datblygiad yr ysgol fusnes, rydym yn un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn cyfarfod â staff academaidd i drafod eu haseiniadau.

[TROSLAIS] Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn defnyddio terfynellau Bloomberg. Mae golygfeydd o'r awyr yn dangos Bangor, dinas yn y Deyrnas Unedig a dinas ryngwladol. Dangosir addysgu, cefnogaeth un-i-un, a gwaith cydweithredol. Yn M‑SParc, mae cyflogwyr yn gweithio mewn gofod modern, ac mae penset rhithrealiti yn cael ei arddangos.

[TROSLAIS] Heddiw, rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraeth ac elusennau yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, i wella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd i ddarparu addysg ragorol trwy deithiau maes ac amlygiad i arbenigedd amrywiol yn y diwydiant, gan ddarparu'r sgiliau y mae cyflogwyr wir eu heisiau.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos eto. Mae dau fyfyriwr yn eistedd ar y glaswellt y tu allan, yn darllen gyda'i gilydd.

[TROSLAIS] Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fwy na dim ond lle i astudio.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad ac yn chwerthin yn yr awyr agored. Staff academaidd yn annerch y camera.

[TROSLAIS] Dyma lle caiff arweinwyr y dyfodol eu creu, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle mae heriau byd-eang yn cael eu datrys yn arloesol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae lluniau cyflym yn dangos myfyrwyr yn dysgu ar draws darlithoedd, gwaith grŵp a chyfleusterau arbenigol. Mae'r ffilm yn gorffen gyda golygfa o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau, wedi'i gorchuddio ag arfbais y Brifysgol ac enw'r ysgol.

[TROSLAIS] Rydym yn creu arweinwyr busnes y dyfodol, a byddem wrth ein bodd yn dy groesawu i ymuno â ni i lywio’r dyfodol.

Camu i Mewn i'n Hystafell Fasnachu

Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, byddi di’n gwneud mwy na dysgu am farchnadoedd ariannol, byddi di’n eu profi'n uniongyrchol. Mae ein Hystafell Fasnachu’n darparu amgylchedd diogel a chefnogol lle cei gyfle i gymhwyso theori i ymarfer gan ddefnyddio data ariannol byw a thechnoleg safonol y diwydiant. 

Gan ddefnyddio offer proffesiynol, gan gynnwys terfynellau Bloomberg, byddi di’n dadansoddi marchnadoedd, yn monitro perfformiad ac yn datblygu'r sgiliau ymarferol a ddefnyddir ar draws gyrfaoedd bancio, cyllid a buddsoddi. Mae'n gyfle i feithrin hyder, gwella dy gyflogadwyedd ac ennill profiad gwerthfawr cyn i ti raddio.

Margaret Cowan - Business Graduate

O Raddio o Brifysgol Bangor i fod yn Rheolwr Ariannol ac ESG

Llwyddiant Gyrfa 

"Ar ôl graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ac ennill y wobr Perfformiad Gorau mewn Cyfrifeg a Chyllid, cefais ysgoloriaeth i astudio Cyllid a Buddsoddi Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Caeredin. Es ymlaen wedyn i ymuno â Nofence fel rheolwr Ariannol ac ESG." 

Sut mae Prifysgol Bangor wedi llywio Fy Ngyrfa 

“Fyddwn i bendant ddim lle ydw i heddiw pe na bawn i wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor. Heb y gefnogaeth a'r anogaeth ymroddedig gan fy narlithwyr, fyddwn i ddim wedi gwthio fy hun i wneud cais am radd meistr, ac mae'n fwyaf tebygol y byddwn wedi setlo am swydd nad oeddwn yn fodlon â hi." 

Cyngor i fyfyrwyr y dyfodol? 

"Mae'r darlithwyr yno i'ch cefnogi, ac maen nhw'n dda iawn yn yr hyn maen nhw'n ei wneud. Fy nghyngor gorau yw ymgysylltu â’r darlithwyr gymaint â phosibl, gan mai nhw yw'r rhai a luniodd fy mhrofiad yn y brifysgol a phwy ydw i fel person." 

Graddiodd Margaret o Brifysgol Bangor gyda BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid.

A students with a lecturer looking at the Bloomberg terminals in the University trading floor

Ddiddordeb mewn Dadansoddeg Data Busnes?

Mae data’n trawsnewid sut mae sefydliadau'n gwneud penderfyniadau. Os oes gen ti ddiddordeb mewn defnyddio data a dadansoddeg i ddatrys heriau busnes, gallai ein gradd Dadansoddeg Data Busnes fod yn berffaith i ti. Byddi di’n dysgu sut i ddehongli data, datgelu mewnwelediadau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio'r offer a'r technegau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol Bangor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cyfrifeg, Bancio a Chyllid llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cyfrifeg, Bancio a Chyllid ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cyfrifeg, Bancio a Chyllid ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gen ti ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gen ti ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.