Archifau a Chasgliadau Arbennig
Polisi a Strategaeth Catalogio (ar gyfer casgliadau archifol)
Cynnwys
- Gwelediaeth a Chenhadaeth
- Rhagarweiniad
- Amcanion
- Staffio
- Cyllid
- Safonau catalogio / Disgrifiadau aml-lefel
- Mynediad at gatalogau
- Diogelwch
- Archives Hub
- Rhagarweiniad
- Cynllun Gweithredu
- Blaenoriaethau catalogio
Y Polisi
Strategaeth
Rheoli Dogfennau
Enw'r Ffeil | Polisi a Strategaeth Catalogio Archifau a Chasgliadau Arbennig (ar gyfer casgliadau archifol) |
Awdur(on) Gwreiddiol: | Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Awdur(on) Adolygiad Presennol | Uwch Archifydd y Brifysgol |
Statws | Cymeradwywyd gan y Pwyllgor Ymgysylltu Dinesig 22 Ionawr 2026 |
Dosbarthiad | Ar gael arlein /cy/archifau-a-chasgliadau-arbennig/amdanom-ni |
Awdurdod | Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Dyddiad adolygu: Ionawr 2029
- Gwelediaeth a Chenhadaeth
Gwelediaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw cael eu cydnabod fel un o鈥檙 archifau profysgol gorau yng Nghymru, trwy gefnogi ymchwil, addysgu a dysgu, cymeryd rhan mewn mentrau cydweithredol a darparu amgylchedd gynhwysol ar gyfer ymchwilwyr. - Rhagarweiniad
- Amcanion
- Staffio
- Cyllid
- Safonau catalogio / Disgrifiadau aml-lefel
Cenhadaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw casglu, gofalu a darparu mynediad I'r casgliadau unigryw sydd gan y Brifysgol.
Nod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw gwneud cyfraniad allweddol tuag at wella rhagoriaeth ymchwil, profiadau dysgu, profiad myfyrwyr ac amgylchedd dwyieithog 鈥� y pedair colofn strategol sy鈥檔 sail i strategaeth y Brifysgol.
Diffinnir catalogio fel y broses o greu disgrifiadau aml-lefel sy'n cyfleu cyd-destun a chynnwys archifau ac yn hyrwyddo mynediad atynt.
Mae'r polisi hwn yn ymwneud 芒 chreu gwybodaeth ddisgrifiadol am archifau sydd yng ngofal Prifysgol Bangor.
Bydd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn sicrhau bod casgliadau archifol a gyflwynwyd i Brifysgol Bangor yn cael eu catalogio, eu mynegeio a'u pecynnu i'r safonau archifol uchaf a luniwyd gan y Cyngor Archifau Rhyngwladol, y Cyngor Cenedlaethol ar Archifau a'r ARA.
Ein nod yw galluogi i holl aelodau'r cyhoedd gael gwybodaeth am y casgliadau trwy gatalog ar-lein CALM, catalogau papur copi caled (sydd ar gael yn yr ystafell ddarllen) a thrwy adnoddau ar-lein eraill fel Archives Hub a chatalog Llyfrgell PB (ALMA).
Byddwn yn sicrhau bod y casgliadau'n cael eu catalogio yn unol 芒 blaenoriaethau a safonau catalogio penodol.
Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn creu strategaeth gatalogio i ddiffinio sut i weithredu'r polisi hwn.
Fel rheol, dylai gwaith catalogio gael ei wneud gan staff proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi mewn disgrifio archifau a chloriannu archifau ac sy'n gyfarwydd 芒 rheolau catalogio mewnol.
Gall rhai mathau o waith catalogio gael eu gwneud naill ai gan staff eraill neu gan wirfoddolwyr ac interniaethau dan gyfarwyddyd gweithiwr proffesiynol cymwys.
Bydd yr holl staff a gwirfoddolwyr/interniaethau yn derbyn hyfforddiant penodol i gyflawni'r dasg.
Gall Prifysgol Bangor geisio cyllid allanol ar gyfer catalogio o bryd i'w gilydd.
Pennir cynnwys disgrifiadau aml-lefel gan y rheolau yn ISAD (G) v2.
Defnyddir Canllawiau Catalogio GLAM, fersiwn 2, Mawrth 2013 wrth gatalogio casgliadau llenyddol.
Mae'r Canllawiau Catalogio Archifau a Chasgliadau Arbennig (ar gyfer Casgliadau Archifol) yn diffinio safonau mewnol a safonau cyflwyno ar gyfer catalogau.
Ymgynghorir 芒 鈥淕uide to Calm Cataloguing鈥� ac 鈥淓xport to the Archives Hub鈥�, 25 Mai 2021 wrth gatalogio鈥檔 uniongyrchol ar CALM neu wrth fewnbwnio catalogau hanesyddol.
Cynhyrchir catalogau yn unol 芒鈥檙 canllawiau hyn (mae copiau ohonynt ar gael yn y 鈥淟lawlyfr Staff鈥� yn y swyddfa.
Mae'r nifer lleiaf o elfennau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ddisgrifiadol yn rhyngwladol fel a ganlyn:
- Cyfeirnod
- Teitl
- 颁谤毛飞谤
- Dyddiad
- Maint yr uned a ddisgrifir
- Lefel y disgrifiad
- Iaith
- C么d Gwald
- C么d Archifdy
- Mynediad at gatalogau
- Bydd cofnodion a ddaw i law yn cael eu catalogio cyn gynted ag y bydd adnoddau ar gael.
- Bydd yr holl gatalogau sydd newydd eu creu ar gael ar-lein.
- Bydd catalogau caled neu gop茂au papur hefyd ar gael yn yr ystafell chwilio. Bydd y rhoddwr neu'r adneuwr hefyd yn derbyn copi o'r catalog.
- Byddwn yn ymdrechu i fewnbynnu'r holl gatalogau hanesyddol/papur presennol i gronfa ddata CALM.
- Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen catalogio rhan neu adrannau o gasgliad mawr a'i ddarparu cyn y bydd y casgliad cyflawn wedi cael ei gatalogio. Mae cyflawni gwaith catalogio yn y modd tameidiog hwn yn galluogi'r gwasanaeth i roi mynediad at archifau y mae galw mawr amdanynt.
- Diogelwch
- Gwneir copi wrth gefn o weinydd CALM bob nos.
- Mae catalogau papur wedi cael eu microffilmio gan y National Inventory of Documentary Sources in the UK and Ireland, 2000-2003.
- Archives Hub
- Rhaid i unrhyw newidiadau sy鈥檔 cael eu gwneud ar CALM hefyd gael eu gwneud ar yr Archives Hub er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y llwyfannau o safbwynt disgrifiadau archifol.
STRATEGAETH GATALOGIO
- Rhagarweiniad
- Cynllun Gweithredu
Pwrpas y ddogfen hon yw sefydlu strategaeth glir ar gyfer catalogio deunydd archifol yn y dyfodol.
Mae catalogio yn un o gyfrifoldebau allweddol Archifau a Chasgliadau Arbennig ac mae'n bwysig ymdrin 芒'r gwaith hwn mewn ffordd strategol a threfnus. Mae cynyddu nifer y cofnodion sydd wedi'u catalogio a darparu gwybodaeth newydd a chyfoethocach am ein deunyddiau yn ganolog i ddarparu mynediad ehangach a gwell at y casgliadau sydd dan ein gofal. Mae catalogio yn fodd i ddarparu cofnod cyfredol o'r casgliadau a gedwir yn yr Archifau ac, os nad yw'r cofnodion yn cael eu diweddaru, yna mae'n amlwg y ceir darlun anghyflawn o'r deunyddiau sydd ar gael ac y llesteirir mynediad atynt.
- Derbynebu pob casgliad o fewn 4-8 wythnos ar 么l iddo ddod dan ofal Prifysgol Bangor a thrwy hynny sefydlu rheolaeth ddeallusol a ffisegol drosto ar unwaith. (Gweler Archifau a Chasgliadau Arbennig - Gweithdrefnau Derbyn a Chofnodi Deunyddiau)
- Defnyddio CALM
- Defnyddio Archives Hub
- Cynnal rhestr o flaenoriaethau catalogio, yn seiliedig ar y canllawiau isod
- Darparu hyfforddiant mewnol i staff mewn safonau catalogio
- Monitro safonau proffesiynol cyfredol ac yn y dyfodol
- Cyflogi archifwyr cwbl gymwys i ymgymryd 芒 phrojectau catalogio lle bo hynny'n bosibl
- Catalogio'r holl ddeunydd sy'n mynd i mewn i'r Archifau i lefel casgliad o fewn 2 flynedd. (Dylai disgrifiad o gasgliad ymhob catalog gynnwys: cyfeiriad at lefel y catalogio a ddefnyddir (wedi'i gofnodi yn elfen ISAD (G) v2 鈥淟efel y disgrifiad鈥�) a throsolwg o drefniant y casgliad (wedi'i gofnodi yn elfen ISAD(G) v2 鈥淪ystem trefnu鈥�)
- Bydd yr amser mwyaf y disgwylir iddo fynd heibio rhwng derbyn archif, cofnodi ei derbyn, a chwblhau catalog, yn amrywio o gasgliad i gasgliad. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau nad yw'n hwy na 15 mlynedd.
- Blaenoriaethau catalogio
Mae angen asesu blaenoriaethau catalogio yn barhaus.
Ystyrir yr egwyddorion canlynol wrth asesu blaenoriaethau catalogio pob casgliad newydd:
Y galw am y casgliad
Maint y casgliad
Unrhyw gyfnodau cau ar y casgliad
Unrhyw gymhorthion darganfod sydd ar gael eisoes, e.e. rhestrau cynnwys bocsys / stocrestrau
Dyfnder y disgrifiad sy'n ofynnol
Yr amser y byddai'n ei gymryd i gwblhau catalog llawn o'r casgliad
Lefel a dyfnder y catalogio sy'n briodol i'r casgliadau
Unrhyw arolygon a wnaed o'r casgliadau, e.e. Catalog Cymru
Y posibilrwydd o gael cyllid allanol
Mewn rhai achosion (e.e. archif o bwys gyda llawer o wybodaeth gyd-destunol gysylltiedig) bydd yn ddymunol ac yn bosibl catalogio i lefel eitemau unigol. Mewn achosion eraill (e.e. casgliadau mawr, cymhleth) bydd yn fwy priodol, neu ddim ond yn bosib, catalogio i lefel cyfres neu ffeil. Efallai mai dim ond rhestrau o focsys rhai casgliadau fydd ar gael am gyfnodau sylweddol, yn dibynnu ar eu blaenoriaeth.
Mae gwybodaeth staff o'r casgliadau archifol ac o anghenion defnyddwyr yn hollbwysig wrth asesu blaenoriaethau catalogio.