Newyddlenni
Cynyddu gallu Band eang dwy fil o weithiau ā am yr un pris
Allech chi ddefnyddio gwasanaeth band eang sydd dwy fil o weithiau yn gyflymach, ond yn costioār un faint?
Mae technoleg chwyldroadol gadarn ar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntaf gan Brifysgol Bangor, yn arwain o ran cwrdd Ć¢ār galw am gynyddu cyflymder a galluār rhyngrwyd yn sylweddol.
Gan ddefnyddioār ceblau rhyngrwyd optegol presennol, maeār dechnoleg wedi profi ei gallu i gynyddu trawsyriant band eang hyd at ddwy fil o weithiau yn fwy naār cyflymder aār gallu presennol. Er enghraifft, fbyddai hynnyān golygu lawr lwytho 20 prif ffilm mewn un eiliad.
Wrth gwrs, mae ffyrdd llawer mwy ymarferol ac amrywiol o ddefnyddioār gallu hwn - pethau y mae galw cynyddol amdanynt yn y farchnad - er enghraifft 3D-TV, HDTV, gwefannau cymdeithasol, gemau ar-lein, rhannu fideos, fideos ar alw ac e-iechyd, yn ogystal Ć¢ rhaglenni sydd heb eu dyfeisio hyd yma. Mae galwār defnyddwyr am drawsyriant lled band eisoes yn cynyddu dros 70% bob blwyddyn.
Eglurodd yr Athro Jianming Tang, o Prifysgol Bangor syān wyddonydd blaenllaw ym maes y dechnoleg newydd: āMae gan y dechnoleg, Optical Orthogonal Frequency Division Multiplexing (OOFDM), fanteision unigryw a chynhenid gan gynnwys, er enghraifft, y cyflymder trawsyriant cyflymaf a'r mwyaf cost effeithiol o gymharu Ć¢ār holl dechnolegau cyfredol eraill, system hyblyg iawn a pherfformiad cadarn rhagorol.ā
Y rhwydweithiau mynediad presennol syān achosiār broblem ar hyn o bryd. Maeār rhain yn cynnig llai na 100Mb/s y tanysgrifiwr, ac maent wedi creu tagfeydd fel na ellir darparuār lled band eang iawn sydd ei angen yn y dyfodol agos. Maeār ateb iāw ganfod yn y rhwydweithiau aār dechnoleg maent yn eu defnyddio.
Mae Prifysgol Bangor yn arwain project tair blynedd i ddatblygu modiwlau OOFDM a phrototeipiau rhwydwaith y cyntaf oāu math drwyār byd y gellir eu defnyddio'n fasnachol, gan ddefnyddio cydrannau parod cost isel. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth dechnegol unigryw y Brifysgol o ran arddangos profion o dderbynyddion OOFDM amser real cyflawn.
Mae partneriaid syān gweithio gyda Phrifysgol Bangor yn y consortiwm (enwār project yw OCEAN) yn cynnwys y cwmnĆÆau technoleg a sefydliadau ymchwil arweiniol mwyaf blaenllaw drwyār byd: Fujitsu Semiconductors Ewrop, Finisar Israel, Fraunhofer Heinrich Hertz Institute, a VPIsystems GmbH. Maeār project werth dros dri miliwn Euro ac yn cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd yr Athro Jianming Tang: ā O gymharu Ć¢ār cysylltiadau band eang sydd ar gael yn fasnachol heddiw, disgwylir iār dechnoleg roi i ddefnyddwyr cyflymder lawr lwytho a llwytho i fyny sydd hyd at 2,000 gwaith yn gyflymach naār cyflymder presennol gyda gwasanaethau o ansawdd gwarantedig am yr un pris y mae tanysgrifwyr yn ei dalu ar hyn o bryd am eu gwasanaethau 20Mb/s, waeth beth yw lleoliad eu cartref. Wrth gwrs, bydd hyn yn chwyldroi technoleg gyfathrebuā.
Gall y dechnoleg hefyd olygu arbedion sylweddol i ddarparwyr y gwasanaeth a gwerthwyr yr offer o ran y gost o osod a chynnal a chadw'r rhwydwaith. Gwneir hyn trwy ddefnyddio'r rhwydweithiau ffibr sydd eisoes wedi eu gosod, ond bydd y systemau ādeallusā yn rhoi gwell gwrthwynebed i systemau ffibr amherffaith a chydrannau o ansawdd isel. Gydaār system hon gellir defnyddio strategaethau technegol cost effeithiol; maeān lleihau pensaernĆÆaeth y rhwydweithiau yn sylweddol; ac yn osgoiār āswyddfa ganologā a chydgyfeirio gwahanol rwydweithiau o wahanol bensaernĆÆaeth. Mae hefyd yn cynnig ateb āgwyrddā oherwydd y gostyngiad sylweddol yn y trydan a ddefnyddir.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012